Ruth

Mae hanes Ruth (oedd yn dod o wlad Moab – un o’r gwledydd paganaidd) yn ddarlun hyfryd o ffyddlondeb Duw, ei gariad a’i ofal.  Mae’n hanes sy’n dyddio o gyfnod y Barnwyr.  Mae yna nifer o wahanol elfennau yn gweu i’w gilydd yn y stori: Ffyddlondeb, cariad a gofal yr ‘arwres’, oedd yn dod o gefndir paganaidd ond wedi credu yn y Duw byw.  Cymeriad anrhydeddus, caredig a chyfiawn Boas, a’i ofal am y tlodion a’r gweddwon.  Y ffordd roedd Duw ar waith yn y cefndir, a’r ffaith fod Ruth wedi troi allan i fod yn hen nain i’r brenin Dafydd (ac felly’n un o hynafiaid Iesu Grist).

Pwy?

Wyddon ni ddim pwy ysgrifennodd llyfr Ruth er bod traddodiad Iddewig yn awgrymu Samuel.  Pwy bynnag ydy’r awdur mae’n ysgrifennu’n fedrus iawn, yn dweud ei stori yn syml ac yn ddramatig.

Dyma’r stori yn fyr:

  • Mae Naomi, gweddw sydd hefyd wedi colli ei meibion, yn dod yn ôl o wlad Moab i’w chartref, Bethlehem,  gyda’i merch yng nghyfraith Ruth, sy’n ferch o wlad Moab. Mae Ruth, er ei bod hi’n ddynes estron, yn rhoi ei ffydd yn Nuw.
  • Maen nhw’n dlawd heb wŷr i ofalu amdanyn nhw, ond mae perthynas o’r enw Boas yn dangos caredigrwydd mawr ac yn gadael iddyn nhw gasglu’r grawn sydd ar ôl yn ei gaeau wedi i’w weision weithio yn y cynhaeaf.
  • Mae Boas a Ruth yn priodi ac yn cael mab – Obed, taid/tad-cu’r brenin Dafydd. Os darlleni di Mathew 1.5 fe weli fod Iesu Grist wedi ei eni i’r teulu hwn.

 

Pryd?

Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad i’r llyfr, ond yn gyffredinol mae ysgolheigion yn meddwl bod y llyfr wedi ei ysgrifennu yn ystod y cyfnod y frenhiniaeth (pan oedd gan Israel frenin) efallai rhwng 1011 a 931 cyn Crist.

 

Pam?

Mae rhai yn meddwl bod gan yr awdur ddiddordeb mawr yn y brenin Dafydd ac am i’r darllenwyr wybod ychydig am ei wreiddiau.

Wrth ddarllen llyfr Ruth fe gawn ni olwg ar fywyd  teulu cyffredin yng nghyfnod y Barnwyr, ac ar ffydd, ffyddlondeb a chariad y cymeriadau at ei gilydd  - cariad sy’n fynegiant o gariad Duw.

Digwyddiad pwysig yn y llyfr ydy parodrwydd Boas i achub Ruth o’i hangen. Yn y Testament Newydd fe welwn Iesu Grist yn barod i achub pobl y byd o’u hangen trwy’r groes.

Mae’r llyfr hefyd yn dangos Duw fel Duw sy’n gofalu am Ruth, y person sydd ddim yn Iddew. Mae’n gofalu amdani, yn ei derbyn ac yn ei defnyddio – mae Duw yn Dduw i bawb, nid Iddewon yn unig. Mae’n gallu ein defnyddio ni yn ei gynlluniau a’i waith.

 

 

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Barnwyr. Ruth ydy arwres llyfr Ruth. Roedd hi’n perthyn i genedl y Moabiaid.
• Priododd Ruth Mahlon, mab hynaf Elimelech a Naomi, Israeliaid oedd wedi symud o Fethlehem i wlad Moab oherwydd newyn. Priododd eu mab arall, Chilion, Foabes arall o’r enw Orpa. Ar ôl colli ei gŵr, a’r ddau fab, penderfynodd Naomi symud yn ôl i Fethlehem. Roedd Ruth eisiau mynd gyda hi. Dywedodd bod cenedl Naomi a’i Duw bellach yn genedl ac yn Dduw iddi hi hefyd.
• Ym Methlehem, mae Ruth yn cael help gan Boas, perthynas cyfoethog i Elimelech, ac yn y diwedd, mae’r ddau yn priodi.
• Cafodd Ruth a Boas fab o’r enw Obed, sef taid/tad-cu y brenin Dafydd.
• Mae enwau Ruth, Boas ac Obed i’w gweld yng nghoeden deuluol Iesu.
(gweler llyfr Ruth; Mathew 1:5)