Satan

 

Prif elyn Duw a’r ddynoliaeth. Mae’n cael ei alw wrth sawl enw yn y Testament Newydd – diafol, cyhuddwr y brodyr, y gelyn, Beelsebub, y temtiwr (temtiodd Satan Iesu yn yr anialwch), tywysog y byd hwn, tad celwyddau.
• Angel oedd Satan ar y dechrau, ond roedd yn falch iawn ac am wneud ei hun yn debyg i Dduw, ac oherwydd hynny cafodd ei daflu allan o’r nefoedd
• Mae Satan yn arwain pobl i bechu ac i fod yn anufudd i Dduw. Mae’n twyllo dynion, ac yn gwneud popeth i wneud iddyn nhw amau Duw a Iesu. Gwnaeth i Jwdas fradychu Iesu.
• Er bod Satan yn nerthol iawn, mae Duw yn gryfach, ac os ydyn ni’n sefyll i fyny iddo, gyda help yr Ysbryd Glân, mae Satan yn gadael llonydd i ni.
• Mae Duw wedi rhoi arfau i’n helpu ni i ymladd yn ei erbyn (Effesiaid 6:10-18)
• Concrodd Iesu o ar y groes,, ond mae’n dal yn brysur yn y byd.
• Ar ddiwedd amser bydd Satan yn cael ei ddinistrio a’i daflu i lyn o dân
(gweler 1 Cronicl 21:1-8; Job 1:6-12; 2:1-7; Sechareia 3:1-2; Mathew 4:10; 12:26; 16:23; Marc 1:13; 3:23-26; 4:15; 8:33; Luc 10:18; 11:18; 13:16; 22:3,31; Ioan 13:27; Actau 5:3; 26:18; Rhufeiniaid 16:20; 1 Corinthiaid 5:5; 7:5; 2 Corinthiaid 2:11; 11:14; 12:7; 1 Thesaloniaid 2:18; 2 Thesaloniaid 2:9; 1 Timotheus 1:20; Datguddiad 2:9-24; 3:9; 12:9; 20:2,7 hefyd BELIAL a BEELSEBUL )