Sebedeus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod bywyd Iesu. Tad Iago a Ioan, ddaeth yn ddisgyblion i Iesu. Pysgotwr yn Galilea oedd yn byw yn ardal Bethsaida. Roedd ganddo weision, felly mae’n debyg ei fod yn ddyn eithaf cyfoethog.
(gweler Mathew 4:21; 10:2; 20:20; 26:37; 27:56; Marc 1:19-20; 3:17; 10:35; Luc 5:10; Ioan 21:2)