Seffaneia 1:4

Roedd dealltwriaeth yr Hebreaid o amser yn wahanol i’n dealltwriaeth ni.  Iddyn nhw, nid pwyntiau ar linell gyda un digwyddiad yn dilyn y llall oedd amser, ond perthynas digwyddiad â bwriad Duw.  Iddyn nhw, digwyddiadau bywyd oedd amser, ac heb fywyd doedd dim amser.  Roedd amser yn fwy o sbiral nac o linnell syth.  Felly, pan mae’r proffwydi yn son am bethau yn digwydd ‘yn fuan’ dydyn nhw ddim yn cyfeirio at gyfnod penodol – yn aml iawn mae yna ystyr deublyg i’r proffwydoliaethau, yn cyfeirio at rywbeth sy’n digwydd yn y dyfodol agos a’r dyfodol pell.