Sorobabel

Cymeriad yn yr Hen Destament o’r cyfnod Wedi’r Gaethglud (538 C.C. ymlaen). Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu ac yn rhestr brenhinoedd Jwda yn llyfr Cronicl. Mae lle i gredu mai ystyr yr enw ydy ‘had Babilon’.
Daeth Sorobabel yn arweinydd i’r Iddewon ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl i Jerwsalem wedi caethglud Babilon. Mae Esra yn dweud hanes y bobl yn dod yn ôl a dechrau ar y gwaith o osod sylfeini’r deml (oedd yn adfeilion erbyn hyn oherwydd y dinistr achosodd byddin Babilon hanner canrif ynghynt). Roedd yn waith anodd iawn, ond annogodd y proffwydi Sorobabel a’r arweinyddion eraill i ddal ati a llwyddo yn y gwaith.
(gweler 1 Cronicl 3:19; Esra 2:2-5:2; Nehemeia 5:7; 12:1-47; Haggai 1:1-2:23; Sechareia 4:6-10; Mathew 1:12,13; Luc 3:27)