Steffanas

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Cristion o Gorinth. Mae ei enw i’w weld yn llythyr Paul at y Corinthiaid. Roedd yn un o aelodau cyntaf yr eglwys yng Nghorinth, ac yn un o’r ychydig gredinwyr gafodd eu bedyddio gan Paul ei hun. Roedd ei deulu yn adnabyddus am eu gwasanaeth Cristnogol. Daeth Steffanas (a Fortunatus ac Achaicus) at Paul i Effesus. Mae’n bosibl mai nhw ddaeth â llythyr i Paul oddi wrth y Corinthiaid, a mynd yn ôl adre wedyn gyda llythyr cyntaf Paul at y Corinthiaid.
(gweler 1 Corinthiaid 1:16; 16:15-17)