Titus

 

Cymeriad yn y Testament Newydd o gyfnod yr Eglwys Fore. Mae’n debyg fod Titus wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul. Mae Paul yn ei alw yn fab yn y ffydd, ac yn bartner oherwydd bu’n helpu llawer ar yr apostol yn ei waith (Titus 1:4). Yn gynnar yn hanes yr eglwys Gristnogol, cynhaliwyd cyfarfod yn Jerwsalem i drafod derbyn pobl oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion) i’r eglwys. Aeth Titus yno hefo Paul fel un oedd wedi derbyn Crist, ond heb gael ei enwaedu. Does dim sôn amdano yn llyfr yr Actau, dim ond yn llythyrau Paul. Roedd yn helpu Paul yn Effesus, ac yn ninas Corinth bu’n helpu’r eglwys i gwblhau eu casgliad tuag at dlodion Jerwsalem. Titus hefyd helpodd i gymodi’r eglwys gyda Paul wedi cyfnod o anghydweld. Yn ail lythyr Paul at Timotheus mae awgrym bod Titus wedi symud i Dalmatia (Iwgoslafia heddiw) i wneud gwaith efengylu yno.
(gweler 2 Corinthiaid 2:13; 7:6- 8:23; 12:18; Galatiaid 2:1-3; 2 Timotheus 4:10; Titus 1:4)
 

Pwy ydy’r awdur?
Paul, yr apostol (os am fwy o wybodaeth, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid, a 1 Timotheus.) Ysgrifennodd Paul lawer o lythyrau at yr eglwysi ifanc yn y ganrif gyntaf, ac mae rhai ohonyn nhw yn y Testament Newydd. Ysgrifennodd yr apostol lythyrau at bobl oedd yn arwain yr eglwysi hefyd, pobl fel Timotheus a Titus. Mae’r llythyrau yma’n cael eu galw yn “lythyrau bugeiliol” oherwydd eu bod nhw’n rhoi arweiniad ar sut i ofalu am yr eglwysi.

Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Ar ddiwedd llyfr yr Actau mae Paul yn garcharor yn Rhufain, ond mae’n gallu cael ymwelwyr, ac mae’n rhannu’r newyddion da gyda phawb. Mae ysgolheigion yn credu fod Paul wedi cael ei ryddhau o’r carchariad hwn, ac wedi mynd i wneud gwaith cenhadol yn Creta, a bod derbynnydd y llythyr hwn, Titus wedi bod yno yn ei helpu. Cafodd Titus ei gomisiynu i gario mlaen gyda’r gwaith. Felly mae’n bosibl fod y llythyr wedi cael ei ysgrifennu tua 63 – 65 O.C.

Pam?
Mae’n debyg fod Titus wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul. Mae’n cael ei alw yn fab yn y ffydd, ac yn bartner (2 Cor 8:23) achos roedd o wedi helpu llawer ar Paul yn ei waith. Yn gynnar yn hanes yr eglwys Gristnogol, roedd cyfarfod wedi bod yn Jerwsalem i drafod derbyn pobl oedd ddim yn Iddewon (cenedl-ddynion) i’r eglwys (Actau 11). Aeth Titus yno hefo Paul fel un oedd wedi derbyn Crist, ond heb gael enwaediad (Gal 2:3-5). Does dim sôn amdano yn llyfr yr Actau. Ond yn rhai o lythyrau eraill Paul yn y Testament Newydd mae sôn amdano yn helpu Paul yn Effesus, ac yn ninas Corinth. Yn Corinth roedd yn helpu’r eglwys i orffen y casgliad i bobl dlawd Jerwsalem, a helpodd Paul i ddelio hefo problemau eraill oedd wedi codi yn yr eglwys.
Os ydy’r farn fod Paul wedi cael ei ryddhau o’r carchariad cyntaf yn Rhufain yn wir, yna gweithiodd gyda Titus yn Creta. Roedd y bobl yn byw bywyd anfoesol, ac yn cael eu nabod fel pobl anonest, barus a diog. Cafodd Titus ei adael yno i gario ymlaen gyda’r gwaith. Ysgrifennodd Paul y llythyr hwn at Titus oherwydd y problemau oedd yn yr eglwys. Roedd rhai yn beirniadu Titus fel arweinydd ac eisiau iddo adael. Mae’r llythyr yn rhoi awdurdod iddo yn wyneb hyn. Yn y llythyr hefyd mae Paul yn sôn am bethau ymarferol fel ymddygiad personol, pa bobl sy’n addas i fod yn arweinwyr yn yr eglwysi lleol. Mae Paul yn dweud ei bod yn bwysig dysgu ffydd a dysgeidiaeth gywir – rhaid i ni gofio bod rhai athrawon ffals wedi dechrau dysgu pethau oedd yn groes i’r efengyl Gristnogol yn yr eglwysi. Mae Paul yn dweud wrth Titus bod hyn yn beryglus. Ar ddiwedd y llythyr dyn ni’n cael cipolwg sydyn ar rai o gydweithwyr eraill Paul – Artemas, Tychicus, Senas ac Apolos.
Yn 2 Timotheus 4:10 mae awgrym fod Titus erbyn hynny wedi symud i Dalmatia (Iwgoslafia heddiw) i wneud gwaith efengylu yno.

Catrin Roberts

Roedd Titus yn gweinidogaethu ar ynys Creta. Mae Paul yn rhoi cyngor iddo sut i helpu Cristnogion i ddilyn y Meseia’n ffyddlon.