Titus 1:10-16

 Mae'n rhybuddio rhag ffug-athrawon (cf.Marc 7:1-23) sy'n camarwain pobl. Roedd rhai yn Iddewon oedd yn ceisio dysgu fod rhaid i Gristnogion fynd drwy’r ddefod o enwaediad, a bod rhaid iddyn nhw gadw'r Gyfraith Iddewig. Roedd eraill yn dysgu ‘deuoliaeth’ oedd yn ofni popeth materol (cf.1 Timotheus 4:3; Colosiaid 2:21).