Titus 1:7

Mae ‘rhywun sy’n gyfrifol am yr eglwys’ yn cyfieithu’r gair Groeg episcope, oedd yn cael ei ddefnyddio o’r bedwaredd ganrif ymlaen i ddisgrifio ‘esgob’. Mae’n cyfeirio yma at rywun sy’n arwain (neu’n ‘arolygu’) yr eglwys leol. Mae’n amlwg ei fod yn air oedd yn cael ei ddefnyddio yn gyfystyr â’r gair arall am arweinydd eglwysig, presbuteros sy’n cael ei gyfieithu yn y BCN fel ‘henuriad’ (gw. adn.5; Actau 20:17,28; 1 Pedr 5:1-2).