Ureia

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Unedig (1050 – 930 C.C.). Un o ddynion y brenin Dafydd. Roedd yn byw yn Jerwsalem gyda’i wraig Bathsheba. Cafodd Dafydd berthynas rywiol gyda Bathsheba tra roedd Ureia yn gwasanaethu gyda’r fyddin. Roedd Ureia yn ddyn ffyddlon iawn i’r brenin. Trefnodd Dafydd iddo gael ei anfon i flaen y gad, er mwyn cael ei wared. Mae coeden deuluol Iesu yn Mathew yn disgrifio Solomon fel mab Dafydd a ‘gwraig Ureia’.
(gwele 2 Samuel 11; 1 Brenhinoedd 15:5; Mathew 1:6)