Usseia

Cymeriad yn yr Hen Destament o gyfnod y Deyrnas Ranedig.
• Mae ei enw i’w weld yng nghoeden deuluol Iesu. Ystyr ei enw ydy “Mae Duw yn nerth i mi”. Mae hefyd yn cael ei alw yn Asareia
• Bu’n frenin ar Jwda am 52 o flynyddoedd tua 792 – 740 C.C.. Daeth yn frenin yn 16 oed (oherwydd fod ei dad, Amaseia, wedi cael ei lofruddio).
• Bu’n frenin galluog a disglair a llwyddodd gwlad Jwda dan ei reolaeth. Cryfhaodd amddiffynfeydd Jerwsalem, adeiladu byddin nerthol, a chreu dinasoedd amddiffynnol strategol.
• Ond cafodd ei gosbi gan Dduw am ei falchder. Un diwrnod, aeth i’r deml, ac arogldarthu ar allor yr arogldarth. Doedd dim hawl ganddo i wneud hynny, a a chafodd ei daro â’r gwahanglwyf. Aeth e ddim allan yn gyhoeddus ar ôl hynny.
(gweler 2 Brenhinoedd 15:13-34; 2 Cronicl 26: 1-27; Eseia 1.1; 6:1-7:1; Hosea 1:1; Amos 1:1; Sechareia 14:5; Mathew 1:8,9)