2 Corinthiaid

Pwy ydy’r awdur?
Paul (Saul o Darsus) gafodd dröedigaeth ar y ffordd i Ddamascus ac yna wnaeth weithio fel Apostol Iesu yn mynd â’r efengyl yn arbennig at bobl oedd ddim yn Iddewon. Yn ystod y cyfnod hwn roedd pobl yn dweud pwy oedd yn ysgrifennu llythyr ar y dechrau, nid ar y diwedd fel rydyn ni’n gwneud heddiw. Am fwy o wybodaeth am Paul edrychwch ar “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae arbenigwyr yn awgrymu tua 56 O.C. Roedd wedi ysgrifennu un llythyr at y Corinthiaid cyn y llythyr dyn ni’n ei adnabod fel 1 Corinthiaid (gw. 1 Cor 5:9). Roedd y llythyr hwnnw yn eu rhybuddio nhw rhag anfoesoldeb rhywiol (does dim copi ohono ar gael i ni heddiw). Yna ar ôl i Paul glywed adroddiadau gwael am eglwys Corinth, a derbyn llythyr ganddyn nhw yn gofyn cwestiynau am sut i fyw fel Cristnogion, atebodd Paul gyda’r llythyr sy’n cael ei alw yn 1 Corinthiaid yn y Testament Newydd. Felly, 1 Corinthiaid oedd ei ail lythyr atyn nhw. Ar ôl hyn digwyddodd rhywbeth wnaeth i Paul fynd i Gorinth i’w gweld nhw, ac roedd yr ymweliad yn un trist ac anodd (2 Corinthiaid 2:1).
Daeth Paul yn ôl i Effesus ac ysgrifennu llythyr arall (2 Cor 2:4; 7:8) (does dim copi ar gael i ni heddiw) ac anfon Titus i Gorinth gyda’r llythyr hwn. Bu’n rhaid i Paul fynd i Macedonia i gyfarfod hefo Titus er mwyn clywed beth oedd ymateb y Corinthiaid i’r ail lythyr coll hwn. Cafodd o newyddion da. Roedd yr eglwys wedi newid agwedd (2 Cor 2:12; 7:6,7). Roedd Paul yn hapus iawn, achos roedd o’n hoff o’r eglwys hon. Paul oedd wedi cychwyn yr eglwys, ac fel bugail roedd o’n poeni am y bobl. Felly ysgrifennodd o lythyr arall atyn nhw o Facedonia – yr ail lythyr at y Corinthiaid.

Pam?
Mae’r ail lythyr at y Corinthiaid yn llythyr personol iawn, yn dangos consýrn mawr Paul dros yr eglwys yng Nghorinth. Er bod Titus wedi dweud bod y Corinthiaid wedi syrthio ar eu bai, roedd yna rai o fewn yr eglwys yn dweud pethau drwg am gymeriad Paul, a’i awdurdod fel apostol. Oherwydd fod Paul wedi gorfod newid ei gynlluniau, roedd yna bobl yn dweud ei fod o’n annibynadwy. Roedd rhai hefyd yn amau beth oedd Paul wedi ei wneud hefo’r arian gafodd ei gasglu ar gyfer Cristnogion tlawd Jerwsalem. Yn ei lythyr felly, mae Paul yn ateb y cyhuddiadau hyn. Mae’n
• egluro pam newidiodd ei gynlluniau teithio
• amddiffyn ei awdurdod fel apostol
• pwysleisio ei fod wedi byw a bihafio yn anrhydeddus tra roedd yng Nghorinth.
Mae’n gofyn iddyn nhw orffen y casgliad oedd wedi ei gychwyn ganddyn nhw ers blwyddyn, ac yn dweud bod yn rhaid delio hefo’r bobl oedd yn creu helynt yn yr eglwys.

Catrin Roberts