Astudio Ioan: Pwy? Pryd? Pam?

 

Pwy ydy’r awdur?
Yn draddodiadol mae’r efengyl hon yn cael ei chysylltu gyda Ioan, brawd Iago, un o’r deuddeg disgybl. Mae rhai’n meddwl ei fod yn amhosib i ddyn o gefndir Ioan ysgrifennu efengyl mor gyfoethog. Maen nhw’n awgrymu fod Ioan wedi defnyddio ysgrifennydd, neu fod disgybl iddo o’r un enw wedi ysgrifennu’r efengyl ar sail atgofion yr apostol. Ond mae yna dystiolaeth yn y llyfr mai Ioan yr apostol ydy’r awdur:
• Tystiolaeth llygad-dyst sydd yma.
• Dydy’r awdur ddim yn cyfeirio at y disgybl Ioan wrth ei enw o gwbl. Mae’n galw Ioan Fedyddiwr yn Ioan. Byddai unrhyw awdur arall am fanylu er mwyn gwahaniaethu rhwng Ioan Fedyddiwr a Ioan y disgybl.
• Y disgrifiad “y disgybl oedd Iesu’n ei garu’n fawr”. Ioan sy’n ffitio’r disgrifiad yma orau. Roedd o, Pedr a Iago yn ffurfio cwmni o dri oedd agosaf at Iesu.
Pysgotwr oedd Ioan yn wreiddiol, yn gweithio gyda’i frawd Iago mewn busnes teuluol llwyddiannus (yn cyflogi gweision – Marc1:20) gyda’u tad Sebedeus. Roedden nhw’n ffrindiau ac yn bartneriaid gyda dau frawd arall, Simon Pedr ac Andreas, a dyma’r pedwar gafodd eu galw gyntaf gan Iesu (Mathew 4:18). Rhoddodd Iesu y llysenw “meibion y daran” i Ioan a’i frawd achos eu bod nhw’n wyllt a byrbwyll weithiau. Ioan a Pedr drefnodd y Swper olaf (Luc 22:8) ac yn ystod y croeshoeliad gofynnodd Iesu i Ioan ofalu am ei fam (Ioan 19:26-27).
Ioan oedd un o’r cyntaf i weld y bedd gwag a chredu yn yr atgyfodiad (Ioan 20:8). Aeth ymlaen i fod yn arweinydd yn yr Eglwys Fore – mae Galatiaid 2:9 yn disgrifio Ioan, Pedr a Iago brawd Iesu fel prif arweinwyr yr eglwys yn Jerwsalem. Yn llyfr yr Actau mae Ioan gyda Pedr wrth y Fynedfa Hardd yn iacháu’r dyn cloff (Actau 3:1-11), mae’n dioddef carchar ac erledigaeth (Actau 4:1-23), ac yn cadw golwg ar waith yr eglwys ymhlith pobl Samaria (Actau 8:14-24).

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd. Mae ysgolheigion yn meddwl mai Efengyl Ioan oedd yr olaf i gael ei hysgrifennu. Y dyddiad traddodiadol ydy rhywbryd rhwng 80 a 90 O.C., ond yn ddiweddar mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu dyddiad cynharach - tua 66 O.C. efallai (Cyn dinistrio Pwll Bethesda cf.5:2, a'r deml). Mae traddodiad cynnar yn dweud bod Ioan wedi byw yn hen yn Effesus, a’i fod wedi ysgrifennu’r efengyl yno.

Pam?
Prif bwrpas Ioan ydy efengylu – yn ôl Ioan 20:30 ymlaen, mae’n disgrifio rhai “arwyddion” er mwyn i’w ddarllenwyr ddod i gredu mai Iesu ydy’r Meseia, Mab Duw, a derbyn bywyd tragwyddol. Mae’n canolbwyntio ar weinidogaeth Iesu yn Jerwsalem, ac yn pwysleisio duwdod Iesu, a’r berthynas arbennig rhwng Duw a Iesu, perthynas Tad a Mab. Mae Duw am achub y byd trwy ei Fab (Ioan 3:16).
Ond mae Ioan hefyd yn dangos fod Iesu hefyd yn ddyn, yn blino, yn dioddef syched ac yn teimlo emosiwn. Rhywbeth arall arbennig i Efengyl Ioan ydy’r gyfres o ddatganiadau “ Fi ydy….” lle mae Iesu’n defnyddio teitlau gwahanol i egluro pwy ydy o. Mae’r Ysbryd Glân yn cael lle amlwg yn Efengyl Ioan. Mae’n dangos bod gweinidogaeth Iesu i gario mlaen trwy’r Ysbryd. Wrth ddarllen Efengyl Ioan cawn ddarlun dwfn a dealltwriaeth arbennig o fywyd a gwaith Iesu.

Catrin Roberts