Effesiaid

Pwy ydy’r awdur?
Mae dechrau’r llythyr yn dweud mai Paul ysgrifennodd y llythyr, ond ers diwedd y 18fed ganrif mae llawer o ysgolheigion yn credu mai rhywun arall oedd awdur Effesiaid. Mae nifer o resymau dros awgrymu mai rhywun arall oedd yr awdur – e.e. geirfa, arddull, cynnwys, safbwynt. Ar y llaw arall, mae rhai ysgolheigion yn dal i gredu’n gryf mai’r apostol Paul ysgrifennodd y llythyr hwn hefyd. Mae mwy o hanes Paul yn y “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae rhai arbenigwyr yn awgrymu bod y llythyr wedi ei ysgrifennu tua 60 - 61 O.C. pan oedd Paul yn y carchar yn Rhufain. Ysgrifennodd lythyr at y Philipiaid, y Colosiaid ac at ddyn o’r enw Philemon tua’r un pryd. Cafodd Paul ei arestio am godi twrw yn Jerwsalem (Actau 21). Wedyn cafodd ei gadw yn y carchar yn Cesarea am 2 flynedd. Yna dewisodd Paul apelio at yr Uchel Lys Rhufeinig a mynd â’i achos o flaen Cesar yn Rhufain. Gan ei fod o’n ddinesydd Rhufeinig roedd ganddo’r hawl i wneud hyn. Ar ôl taith gynhyrfus (Actau 27) daeth i Rufain. Cafodd ei gadw dan arestiad tŷ am ddwy flynedd arall, ac roedd yn cael cyfle i ddysgu pawb oedd yn dod ato fo am Iesu. Dyn ni ddim yn cael gwybod beth ddigwyddodd i Paul ar ddiwedd llyfr yr Actau. Mae ysgolheigion yn meddwl ei fod o wedi cael ei ryddhau am ychydig, ac yna wedi ei ailarestio pan ddechreuodd yr Ymerawdwr Nero erlid Cristnogion yn greulon. Mae traddodiad yn dweud bod Paul wedi cael ei ladd gan Nero yn Rhufain tua 67 O.C.

Pam?
Aeth Paul i fyw i Effesus am dair blynedd (Actau 20:31) a sefydlu eglwys yno. Roedd yn ddinas bwysig yn Asia Leiaf (Twrci heddiw), ac yn ganolfan fasnachu hawdd teithio iddi.
Ond mae’r llythyr at yr Effesiaid yn wahanol i lythyrau eraill Paul. Yn un peth, does dim cyfarchion personol yn y llythyr. Dydy'r geiriau "yn Effesus" ddim yn rhai o'r llawysgrifau cynharaf. Mae’r llythyr yn amhersonol, ac mae wedi cael ei ysgrifennu mewn ffordd fwy cymhleth na llythyrau arferol Paul, hefo brawddegau hirach. Mae rhai yn credu mai cylchlythyr sydd yma, sef llythyr oedd yn cael ei basio mlaen o eglwys i eglwys yn ardal Effesus. Mae’n cyfeirio at sefyllfa arbennig oedd wedi codi wrth i’r eglwys lwyddo wrth genhadu. Yn y cyfnod hwn roedd llawer iawn o bobl o genhedloedd eraill yn llifo i’r eglwysi. Roedden nhw’n tueddu i edrych i lawr ar y Cristnogion Iddewig, ac yn teimlo’n falch bod dim rhaid iddyn nhw ufuddhau i’r Gyfraith Iddewig. Roedd angen atgoffa’r bobl yma fod gwreiddiau y ffydd Gristnogol yn y ffydd Iddewig - a dyna mae Paul yn ei wneud yn y llythyr. Mae o’n pwysleisio mai cynllun Duw ydy bod pobl o bob cefndir a chenedl yn un yn y Meseia. Gan fod aberth Iesu Grist yn uno pawb yn y ffydd, rhaid i Gristnogion ddangos yr undod yma yn eu bywyd bob dydd ac yn eu perthynas hefo pobl eraill. Mae’r un syniadau i’w gweld mewn llythyr cynharach gan Paul at y Colosiaid, ond mae o’n datblygu’r thema yn y llythyr hwn.

Catrin Roberts