Esra

Pwy?

Roedd Esra yn offeiriad gafodd ei eni ym Mabilon, ac fe gafodd ei ddewis gan Dduw i arwain yr Israeliaid pan gawson nhw ganiatâd i symud yn ôl i Jwda ar ôl blynyddoedd o fyw yn gaeth ym Mabilon.  Mae’n dweud nifer o weithiau yn y llyfr bod llaw’r Arglwydd ei Dduw arno.  Roedd Esra’n ddyn oedd yn astudio Gair Duw ac yn arbenigwr yn y Gyfraith. Roedd hefyd yn dysgu’r bobl i ufuddhau i Dduw.

Wyddon ni ddim pwy ydy awdur y llyfr, ond mae’n amlwg fod atgofion personol Esra yn chwarae rhan bwysig yn yr hanes. Mae’n ddiddorol sylwi bod penodau cyntaf y llyfr yn siarad am Esra yn y trydydd person, ond mae yna newid ar ddiwedd pennod 7 i’r person cyntaf.

Un llyfr ydy Esra a Nehemeia yn y llawysgrifau hynaf Hebreig. Mae cysylltiad agos rhwng y llyfrau hyn a llyfrau Cronicl, gyda rhai arbenigwyr  yn dod i’r casgliad mai’r un person ydy awdur y llyfrau i gyd – ond does dim gwybodaeth bendant gennon ni am hyn.

 

Pryd?

Mae rhai arbenigwyr yn dyddio llyfr Esra tua 440 cyn Crist.

 

Pam?

Ar ôl i ymerodraeth Babilon goncro Jwda  586 o flynyddoedd cyn Crist, cafodd y bobl eu gorfodi i adael eu gwlad a symud i wlad Babilon.  Yna cafodd ymerodraeth Babilon ei choncro gan y Persiaid tua 539 cyn Crist. Tua blwyddyn wedyn penderfynodd Cyrus, arweinydd y Persiaid, adael i’r Israeliaid symud yn ôl i Jwda. Digwyddodd hyn mewn 3 rhan

  1. Tua 537 cyn Crist -  Sorobabel yn arwain grŵp o tua 50,000 o bobl yn ôl. Y gwaith o ddechrau ail adeiladu’r deml yn cychwyn ac yn cael ei gwblhau tua 515 cyn Crist
  2. Grŵp yn mynd yn ôl gydag Esra tua 458 cyn Crist gyda chaniatâd y brenin Artaxerxes.  Cymerodd y daith yn ôl dros 4 mis.
  3. Artaxerxes yn gadael i grŵp arall fynd yn ôl o dan arweiniad Nehemeia tua 444/5 cyn Crist er mwyn gorffen ail adeiladu waliau Jerwsalem oedd dal yn adfeilion.

Mae llyfr Esra (a llyfr Nehemeia) yn dweud beth ddigwyddodd wrth i’r Israeliaid fynd yn ôl i Jwda ac i Jerwsalem. Y peth pwysicaf gan Esra ydy hanes ail adeiladu’r Deml oedd wedi ei dinistrio gan fyddin Babilon. Mae Esra hefyd yn cynnwys llawer o restrau teuluol achos wrth i’r Iddewon ail sefydlu eu hunain a rhoi trefn unwaith eto ar eu bywyd a’u defodau crefyddol, roedd yn bwysig gwybod pwy oedd yn perthyn i ba lwyth, pwy oedd yn gallu gwasanaethu fel offeiriad ac fel Lefiaid. Fe wnaeth Esra hefyd arwain y bobl i gyffesu ac edifarhau (dweud sori) achos bod nhw wedi torri deddfau Duw, er enghraifft roedd rhai o’r dynion wedi priodi gyda merched oedd ddim yn Iddewon.

 

 

0
tudalen blaen: 
0