Am beibl.net - Beth ydy beibl.net?

Beth ydy beibl.net?
Mae beibl.net yn aralleiriad cwbl wreiddiol o'r Beibl. Dydy o ddim yn ddiwygiad o unrhyw fersiwn Cymraeg, nac yn gyfieithiad o unrhyw fersiwn Saesneg. Cafodd ei ysgrifennu gan Swyddog Maes GiG, Arfon Jones, ond mae llawer iawn o bobl wedi cyfrannu sylwadau a syniadau ar sut i wella'r drafftiau cynnar, a charem ddiolch i bawb sydd wedi helpu mewn unrhyw ffordd. Carem ddiolch yn arbennig i'r Parchg Angharad Roberts wnaeth baratoi drafftiau cynnar o rai o lyfrau'r Hen Destament - sef Ruth, 1 & 2 Samuel, 1 & 2 Brenhinoedd a 1 & 2 Cronicl.

Dechreuodd y gwaith fel ymdrech i fynegi neges y Testament Newydd mewn iaith lafar syml. Roedd dau grŵp o ddarllenwyr yn bennaf mewn golwg - pobl ifanc (yn arbennig y rhai hynny heb gefndir capel neu eglwys) a dysgwyr y Gymraeg.  Roedd yr ymateb iddo mor gadarnhaol aethpwyd ati i baratoi fersiwn llafar tebyg o lyfrau'r Hen Destament.

Penderfynwyd yn bennaf defnyddio'r ffurfiau llafar a ddefnyddir ar gyrsiau Wlpan. Ceiswyd hefyd ddilyn y canllawiau a welir mewn llawlyfr a gyhoeddwyd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ym 1991 - "Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar".

Annogir pobl i'w ddarllen gan ynganu'r ffurfiau llafar yn y ffordd fwyaf naturiol iddyn nhw yn eu hardal - e.e.
dyn ni fel dan ni neu den ni neu ŷn ni
dych chi fel dach chi neu dech chi neu ych chi
Gellir cyfnewid mae e am mae o, nawr am rwan etc. etc.

Penderfynwyd ei gyhoeddi ar y We Fydeang oherwydd:
Gall unrhyw un sy'n siarad y Gymraeg yn unrhyw ran o'r byd droi ato cyn belled â bod ganddyn nhw fodd i gysylltu â'r We Fydeang.

Mae'n rhoi cyfle i bobl wneud sylwadau arno ac awgrymu sut y gellid ei wella. Bwriedir ei ddiwygio'n gyson yng ngoleuni unrhyw sylwadau a beirniadaeth a dderbynir. Y Golygydd sydd a'r unig hawl i ddiwygio'r testun.

Dylid anfon unrhyw sylwadau at golygydd@beibl.net.

Mae caniatâd i unrhyw un ei ddefnyddio, ei gopïo a'i argraffu yn ddi-dâl ar gyfer defnydd personol. Mae caniatâd hefyd i unrhryw un sydd am rannu neges y Beibl gydag eraill i argraffu rhannau ohono cyn belled â'u bod yn cael eu rhannu i bobl yn rhad ac am ddim.