Roedd Habacuc yn stryglo gyda’r cwestiwn, ‘Pam mae Duw yn caniatáu i ddrygioni lwyddo’. Roedd yn proffwydo tua’r flwyddyn 600 C.C. ac yn gweld trais ac anghyfiawnder yn y gymdeithas. Mae’n cael sioc waeth pan mae’n deall fod Duw yn bwriadu anfon y Babiloniaid, cenedl greulon a gwyllt, i gosbi Jwda. Dydy’r peth ddim yn gwneud sens iddo, gan fod y Babiloniaid yn llawer gwaeth na pobl anufudd Jwda. Ond mae Duw yn esbonio, er ei fod yn defnyddio’r Babiloniaid i gyflawni ei fwriadau, bydd yn eu cosbi nhw am eu pechodau hefyd.
Mae Habacuc hefyd yn dysgu nad ydy Duw yn aros yn dawel am byth. Dydy drygioni a thrais y gwledydd yn cyflawni dim yn y pen draw, ac mae’r dyfodol yn llaw Duw. Mae’r broffwydoliaeth yn cloi gyda’r proffwyd yn mynegi ei hyder a’i ffydd yn Nuw.