1 Flwyddyn ar ôl i bobl Israel adael gwlad yr Aifft, ar ddiwrnod cyntaf yr ail fis, Ref dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses. Digwyddodd hyn yn y babell lle roedd Duw yn cyfarfod pobl, pan oedd pobl Israel yn anialwch Sinai. Dwedodd:
2 “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o holl bobl Israel. Dw i eisiau i ti restru enwau'r dynion i gyd –
3 pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,
4 gyda help un dyn o bob llwyth sy'n arweinydd ar ei deulu estynedig.
5-15 “Dyma enwau'r dynion sydd i'ch helpu chi:
Llwyth
Arweinydd
Reuben
Eliswr fab Shedeŵr
Simeon
Shelwmiel fab Swrishadai
Jwda
Nachshon fab Aminadab
Issachar
Nethanel fab Tswár
Sabulon
Eliab fab Chelon
Yna meibion Joseff:
Effraim
Elishama fab Amihwd
Manasse
Gamaliel fab Pedatswr
Wedyn,
Benjamin
Abidan fab Gideoni
Dan
Achieser fab Amishadai
Asher
Pagiel fab Ochran
Gad
Eliasaff fab Dewel
Nafftali
Achira fab Enan.”
16 Dyna'r arweinwyr gafodd eu dewis o bob llwyth yn benaethiaid ar bobl Israel.
17 Felly dyma Moses ac Aaron, a'r dynion yma gafodd eu henwi,
18 yn casglu'r bobl i gyd at ei gilydd y diwrnod hwnnw, sef diwrnod cyntaf yr ail fis. Cafodd pawb eu cofrestru, gan nodi'r llwyth a'r teulu roedden nhw'n perthyn iddo. Cafodd pob un o'r dynion oedd dros ugain oed eu rhestru,
19 yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Digwyddodd y cyfrifiad yma yn anialwch Sinai.
20-43 A dyma'r canlyniadau, sef nifer y dynion dros ugain oed allai ymuno â'r fyddin, gan ddechrau gyda Reuben (mab hynaf Israel):
Llwyth
Nifer
Reuben
46,500
Simeon
59,300
Gad
45,650
Jwda
74,600
Issachar
54,400
Sabulon
57,400
Yna meibion Joseff:
Effraim
40,500
Manasse
32,200
Wedyn,
Benjamin
35,400
Dan
62,700
Asher
41,500
Nafftali
53,400
44 Dyma niferoedd y dynion gafodd eu cyfri gan Moses, Aaron, a'r deuddeg arweinydd (pob un yn cynrychioli llwyth ei hynafiad).
45 Cawson nhw eu cyfrif yn ôl eu teuluoedd – pob un dyn oedd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin.
46 A'r cyfanswm oedd 603,550.
47 Ond doedd y cyfanswm yna ddim yn cynnwys y dynion o lwyth Lefi.
48 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses,
49 “Paid cynnwys llwyth Lefi yn y cyfrifiad.
50 Mae'r Lefiaid i fod i ofalu am Dabernacl y Dystiolaeth, a'r holl ddodrefn a'r offer sydd ynddo. Nhw sydd i'w gario, gofalu amdano, a gwersylla o'i gwmpas.
51 Pan mae'r Tabernacl yn cael ei symud, y Lefiaid sydd i'w dynnu i lawr a'i godi eto. Os ydy rhywun arall yn mynd yn agos ato, y gosb fydd marwolaeth.
52 “Bydd lle penodol i bob un o lwythau Israel wersylla, a bydd gan bob llwyth ei fflag ei hun.
53 Ond bydd y Lefiaid yn gwersylla o gwmpas Tabernacl y Dystiolaeth, i amddiffyn pobl Israel rhag i'r ARGLWYDD ddigio gyda nhw. Cyfrifoldeb y Lefiaid ydy gofalu am Dabernacl y Dystiolaeth.”
54 Felly dyma bobl Israel yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
Mae Numeri yn adrodd hanesion am bobl Israel pan oedden nhw’n crwydro yn anialwch Sinai am 40 mlynedd. Rhyw 200 milltir oedd y daith o Fynydd Sinai i wlad Canaan, ond cymerodd ddegawdau am fod y bobl mor anufudd ac yn cwyno o hyd ac o hyd. Mae Numeri yn son am y tir sydd i’r dwyrain o’r Afon Iorddonen yn cael ei roi i’r bobl oedd yn perthyn lwythau Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse. Mae hefyd yn dweud lle byddai ffiniau’r wlad, pa drefi fyddai’n cael eu rhoi i’r Lefiaid, a pa drefi fyddai’n drefi lloches (lle gallai person oedd wedi lladd rhywun arall yn ddamweiniol ddianc dros dro).