Cymorth - Adnoddau

Adnoddau

Mae yna ddwy adran Adnoddau: Eglwysi ac Ysgolion

Adnoddau i Eglwysi

  • Yma mae dewis eang o adnoddau. Wrth glicio ar un o’r dewisiadau e.e. Straeon i Blant – fe gewch restr o straeon sy’n addas ar gyfer plant, wedi eu trefnu fesul llyfr Beiblaidd.
  • Os dych chi’n chwilio am astudiaethau neu myfyrdodau chwiliwch yn ôl y llyfr e.e. os ydych am fwy o wybodaeth am efengyl Mathew, cliciwch ar Mathew ac cewch ddewis o adnoddau perthnasol.
  • Os ydych eisiau adnodd sy’n gysylltiedig ag adnod neu stori benodol o’r Beibl, ewch i’r bennod yn Darllen y Beibl ac fe welwch focs yn dweud Adnoddau sy’n berthnasol i’r bennod hon. Dilynwch y dolenni o’r fan honno i’r adran adnoddau.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r blwch chwilio i ddod o hyd i adnodd berthnasol.

 

Adnoddau i Ysgolion

  • Yma eto, mae dewis eang o adnoddau. Wrth glicio ar un o’r dewisiadau e.e. Gwasanaethau Cynradd – fe gewch ddewis o wasanaethau boreol sy’n addas ar gyfer plant. Mae nifer ohonyn yn aml-gyfryngol e.e. hanes y Nadolig a’r Pasg.
  • Os ydych eisiau adnodd sy’n gysylltiedig ag adnod neu stori benodol o’r Beibl, ewch i’r bennod yn Darllen y Beibl ac fe welwch focs yn dweud Adnoddau sy’n berthnasol i’r bennod hon. Dilynwch y dolenni o’r fan honno i’r adran adnoddau.
  • Yn yr Adran i Eglwysi mae yna Straeon, Chwileiriau a Chwisiau i Blant sy’n aml- gyfryngol, a gallen nhw hefyd fod yn ddefnyddiol mewn sefyllfa ysgol.

 

Cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol i holi am adnodd neu i ddweud beth hoffech chi weld ar y wefan: swyddogadnoddau@beibl.net

 

Yn ôl i Cymorth