
Pwy ydy’r awdur?
Paul yr apostol, gafodd dröedigaeth ddramatig ar y ffordd i Ddamascus (Actau 9). Treuliodd ei fywyd yn teithio er mwyn rhannu’r Efengyl. Cychwynnodd Paul eglwysi Cristnogol, ac mae rhai o’r llythyrau ysgrifennodd o at yr eglwysi hyn, ac at bobl fel Timotheus a Titus, yn rhan o’r Testament Newydd. (Os am wybod mwy am Paul, darllenwch “Pwy? Pryd? Pam?” Rhufeiniaid). Mae rhai yn amau ai Paul ydy awdur 1 Timotheus. Maen nhw’n gweld yr iaith yn wahanol iawn i lythyrau eraill Paul. Hefyd maen nhw’n credu fod y math o eglwys sy’n cael ei disgrifio yma yn perthyn i gyfnod mwy diweddar. Ond rhaid cofio bod Paul yn arfer defnyddio amanuensis (ysgrifennydd) ac mae’r llythyr yma yn darlunio perthynas mor agos rhwng yr awdur a Timotheus, mae’n anodd iawn credu fod rhywun arall wedi ei ysgrifennu.
Pryd?
Mae’n anodd iawn rhoi dyddiad pendant, ond mae rhai yn credu bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr yn fuan ar ôl y digwyddiadau ar ddiwedd llyfr yr Actau, lle mae Paul mewn carchar yn Rhufain yn disgwyl ei achos llys o flaen Cesar. Dyn ni ddim yn gwybod yn iawn beth ddigwyddodd i Paul wedyn. Mae ysgolheigion yn meddwl ei fod wedi cael ei ryddhau, ac wedi parhau gyda’i waith cenhadol, ac mai dyna pryd ysgrifennodd o’r llythyr hwn, tua 63-65 O.C.
Pam?
Mae’r llythyrau at Timotheus, a’r llythyr at Titus yn cael eu galw yn “llythyrau bugeiliol”, sef llythyrau i helpu’r bobl oedd yn arwain yr eglwysi ifanc i wneud eu gwaith. Dyn ifanc o Lystra (De Twrci heddiw) oedd Timotheus. Roedd ei dad yn Roegwr a’i fam yn Iddewes dda. Dysgodd ei fam yr Ysgrythurau Iddewig i Timotheus. Mae’n bosib ei fod wedi dod i gredu yn Iesu trwy bregethu Paul – mae’n dweud “rwyt ti wir fel mab i mi yn y ffydd” (1 Tim. 1:2). Penderfynodd Paul fynd â Timotheus ar ei deithiau cenhadol a daeth y dyn ifanc yn ffrind da iddo ac yn bartner gwaith ffyddlon. Dyma’r eglwys yn comisiynu Timotheus i’r gwaith ( 1 Tim 4:4), ac yn Actau 16:3 dyn ni’n dysgu ei fod o wedi derbyn enwaediad er mwyn cael gweithio gydag Iddewon. Aeth i efengylu hefo Paul yn Macedonia, Achaia, ac Effesus. Yna cafodd y gwaith o arwain eglwys Effesus. Yno roedd yn gyfrifol am arolygu’r Cristnogion lleol, a dewis a hyfforddi arweinwyr eglwysig newydd. Nid gwaith hawdd oedd hyn i berson ifanc fel Timotheus oedd yn gymeriad digon nerfus, ac yn dioddef o anhwylder ar y stumog (1 Tim 5:23).
Roedd Paul yn mynd yn hŷn. Roedd o eisiau pasio ei awdurdod fel apostol ymlaen i arweinwyr iau. Mae’r llythyrau bugeiliol yn sôn am
• rôl arweinydd eglwys
• sut i ddelio hefo problemau yn yr eglwysi
• ymddygiad personol arweinwyr
• sut i ddewis arweinwyr eraill
Mae’r llythyr yn dweud ei bod yn bwysig iawn canolbwyntio ar brif bwyntiau’r ffydd a dysgu’r gwir. Cofiwch fod rhai athrawon ffals wedi dechrau dysgu heresïau yn yr eglwysi erbyn hyn. Mae’n siwr fod Paul wedi dweud y pethau hyn wrth Timotheus ar lafar yn barod – ond byddai llythyr yn helpu’r arweinydd ifanc dihyder yma. Byddai’n gallu dangos y llythyr, neu ei ddarllen yn yr eglwys a dweud “Dyma mae Paul yn ei ddweud hefyd.”
Catrin Roberts
Rhybuddio Timotheus
1 Ond mae'r Ysbryd Glân yn dweud yn gwbl glir y bydd rhai yn y cyfnod olaf hwn yn troi cefn ar y gwir. Byddan nhw’n gwrando ar ysbrydion sy'n twyllo a byddan nhw’n credu pethau mae cythreuliaid yn eu dysgu. 2 Pobl ddauwynebog a chelwyddog sy’n dysgu’r syniadau hyn. Pobl heb gydwybod, fel petai wedi ei serio gyda haearn poeth. 3 Maen nhw'n rhwystro pobl rhag priodi ac yn gorchymyn iddyn nhw beidio bwyta rhai bwydydd. Ond Duw greodd y bwydydd hynny i'w derbyn yn ddiolchgar gan y rhai sy'n credu ac sy'n gwybod beth ydy'r gwir. 4 Ac mae popeth mae Duw wedi ei greu yn dda! Felly dylen ni dderbyn y cwbl yn ddiolchgar. 5 Mae Duw wedi dweud ei fod yn iawn i’w fwyta a dylen ni ddiolch amdano mewn gweddi.
6 Os gwnei di ddysgu hyn i bawb arall, a bwydo dy hun ar wirioneddau'r ffydd a'r ddysgeidiaeth dda rwyt wedi ei derbyn, byddi di'n was da i Iesu y Meseia. 7 Paid gwastraffu dy amser gyda chwedlau sy’n ddim byd ond coelion gwrachod. Yn lle hynny gwna dy orau glas i fyw fel mae Duw am i ti fyw. 8 Mae ymarfer corff yn beth da, ond mae ymdrechu i fyw fel mae Duw am i ti fyw yn llawer iawn pwysicach – mae’n dda i ti yn y bywyd hwn a'r bywyd sydd i ddod. 9 Ydy, mae beth sy’n cael ei ddweud mor wir, a dylai pawb gredu’r peth.
10 Dyma’r rheswm pam dyn ni'n dal ati i weithio’n galed ac ymdrechu. Dyn ni wedi ymddiried yn y Duw byw, sy'n achub pob math o bobl – pawb sy'n credu. 11 Gwna’n siŵr fod pobl yn gwybod y pethau hyn a dysga nhw. 12 Paid gadael i neb dy ddibrisio di am dy fod di'n ifanc. Bydd yn esiampl dda i’r credinwyr yn y ffordd rwyt ti’n siarad, a sut rwyt ti’n byw, yn dy gariad at eraill, dy ffydd a’th fywyd glân. 13 Hyd nes bydda i wedi cyrraedd, canolbwyntia ar ddarllen yr ysgrifau sanctaidd yn gyhoeddus, annog y bobl a’u dysgu nhw. 14 Paid ag esgeuluso'r ddawn roddodd yr Ysbryd Glân i ti gyda neges broffwydol pan oedd yr arweinwyr yn gosod eu dwylo arnat ti i dy gomisiynu di i’r gwaith.
15 Gwna’r pethau yma yn flaenoriaeth. Bwrw iddi i’w gwneud, er mwyn i bawb weld sut rwyt ti'n dod yn dy flaen. 16 Cadw lygad ar sut rwyt ti’n byw a beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dal ati i wneud hynny. Wedyn byddi'n gwneud yn siŵr dy fod ti dy hun a'r rhai sy'n gwrando arnat ti yn cael eu hachub.
