
Pwy ydy'r awdur?
Mae dechrau'r llythyr yn cyflwyno'r awdur fel Jwdas, gwas Iesu Grist a brawd Iago, ac mae mwyafrif ysgolheigion yn meddwl mai Jwdas, brawd Iesu ydy'r Jwdas hwnnw. Mae'r Testament Newydd yn sôn am frodyr Iesu (Mathew 13:55), plant gafodd eu geni i Joseff a Mair ar ôl i Iesu gael ei eni. Dim ond ar ôl yr atgyfodiad ddaeth y brodyr yma i gredu yn Iesu. Cyn hynny roedden nhw'n meddwl bod Iesu yn wallgo ( Marc 3:21, Ioan 7:5). Daeth Iago yn arweinydd yn yr eglwys yn Jerwsalem, ond dyn ni ddim yn gwybod llawer am Jwdas, dim ond ei fod o wedi gweithio dros Iesu. Mae'n amlwg ei fod o'n ddyn gwylaidd ac mae'n cyfeirio ato'i hun fel gwas a brawd i Iago, nid fel brawd i Iesu.
Pryd?
Mae'n anodd iawn rhoi dyddiad pendant i lyfrau'r Testament Newydd, ond mae nifer o ysgolheigion yn awgrymu fod y llythyr hwn wedi ei ysgrifennu rhywbryd rhwng 65 ac 80 O.C. Mae rhannau o lythyr Jwdas yn debyg iawn i ail lythyr Pedr. Maen nhw mor debyg, mae rhai yn credu fod un ohonyn nhw (dyn ni ddim yn gwybod pa un) wedi defnyddio gwaith y llall, neu fod y ddau wedi defnyddio gwaith rhywun arall wrth ysgrifennu.
Pam?
Un o broblemau mawr yr eglwysi Cristnogol cynnar oedd athrawon ffals yn dysgu heresïau (pethau oedd yn groes i'r hyn roedd yr apostolion cyntaf wedi ei ddysgu am Iesu). Roedd Jwdas wedi bwriadu ysgrifennu llythyr at y Cristnogion hyn (dyn ni ddim yn gwybod pwy ydyn nhw, dim ond eu bod nhw'n Gristnogion), yn trafod sut mae person yn dod i berthynas newydd hefo Duw. Ond wedi clywed beth oedd yn cael ei ddysgu iddyn nhw gan yr athrawon ffals, ysgrifennodd o i ddweud wrthyn nhw am gadw at y neges glir gafodd ei dysgu. Yn ôl Jwdas roedd yr athrawon hyn yn achosi rhaniadau, ac yn anfoesol. Bydden nhw'n cael eu cosbi fel y cafodd rhai o gymeriadau enwog yr Hen Destament fel Cain a Balaam eu cosbi. Mae'n pwysleisio y bydd gweddi a nerth yr Ysbryd Glân yn helpu'r Cristnogion i sefyll yn gryf. Mae'r llythyr yn Iddewig iawn, ac yn cyfeirio llawer at yr Hen Destament. Mae'r awdur hefyd yn sôn am lyfrau apocryffaidd yr Iddewon ( llyfrau sy ddim yn rhan o'r ysgrythur swyddogol) e.e. Llyfr Enoch ac Esgyniad Moses. Oherwydd hynny, roedd llawer o ddadlau a ddylai'r llythyr fod yn rhan o'r Testament Newydd. Ond mae tystiolaeth fod yr eglwys Gristnogol yn defnyddio'r llythyr mor gynnar â dechrau'r ail ganrif.
Catrin Roberts
Mae Jwdas yn rhybuddio ei ddarllenwyr rhag dylanwad pobl ddrwg y tu allan i’r gymdeithas o gredinwyr.
