beibl.net

  • Beth wyt ti eisiau wneud?

  • Darllen ac Astudio
  • Adnoddau
  • Defnyddiau
  • Cymorth
  • Gwybodaeth
  • Ebost

Philemon

Chwilio manwl

Llyfrau Beibl.net

Chwilio manwl

Cymorth astudio



Astudio: Pwy? Pryd? Pam?

Pwy ydy’r awdur?
Yr apostol Paul, ddaeth i gredu yn Iesu ar ôl profiad dramatig ar y ffordd i Ddamascus (Actau 9). Cyn hynny roedd yn erlid Cristnogion, ond wedyn treuliodd ei fywyd yn dweud wrth eraill am Iesu Grist. Mae ei hanes yn llyfr yr Actau. Ysgrifennodd nifer o lythyrau at eglwysi newydd, a hefyd at unigolion. Am fwy o hanes Paul, darllenwch y nodiadau ar y llythyr at y Rhufeiniaid.

Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd, ond mae rhai ysgolheigion yn awgrymu 60-61 O.C. pan oedd Paul dan arestiad tŷ (yn Rhufain). Cafodd ei ysgrifennu tua’r un amser â’r llythyr at y Colosiaid.

Pam?
Mae hwn yn llythyr personol gan Paul at Philemon, ffrind oedd yn Gristion ac yn byw yn ninas Colosae. Roedd grŵp o Gristnogion yn defnyddio ei dŷ fel man cyfarfod (adnod 2). Fel oedd yn arferol yn y cyfnod, roedd gan Philemon gaethweision, ac roedd un ohonyn nhw, Onesimus, wedi dwyn oddi arno ac yna rhedeg i ffwrdd. Daeth Onesimus yn Gristion wedi iddo fo gyfarfod Paul. Anfonodd Paul Onesimus yn ôl at ei feistr. Ond oherwydd ei fod wedi rhedeg i ffwrdd, byddai Onesimus yn wynebu cosb ddifrifol (roedd rhai caethweision yn cael eu lladd am wneud hyn!). Felly penderfynodd Paul ysgrifennu llythyr sensitif yn gofyn i Philemon faddau i Onesimus. Mae Paul yn pwysleisio bod y ddau, Philemon ac Onesimus, y meistr a’r gwas, oherwydd eu cariad at Iesu Grist, yn frodyr i’w gilydd. Mae’r llythyr yn dangos cariad a gofal Paul at eraill. Llythyr ffurfiol sy’n dilyn patrwm oedd yn cael ei ddysgu gan athrawon Groeg a Rhufeinig ydy hwn. Mae’n:
a. ceisio creu perthynas efo’r darllenydd/gwrandäwr (adnod 4-10)
b. cyflwyno’r dadleuon (adnod 11-19)
c. apelio at yr emosiwn (adnod 20 –21)
Mae Paul hefyd yn dangos ei hiwmor – mae’n chwarae ar yr enw Onesimus (sy’n golygu defnyddiol) yn adnod 10 ac 11 ac yn awgrymu bod Onesimus wedi bod yn ddefnyddiol iawn yng ngwaith yr Efengyl.

Catrin Roberts

Cyflwyniad

Mae Paul yn annog Philemon i faddau i’w gaethwas Onesimus oedd wedi dianc oddi wrtho, a’i groesawu’n ôl fel brawd. Roedd Paul wedi ei arwain i gredu yn Iesu tra roedd yn y carchar.