
Pwy ydy awdur y llythyr?
Paul (o dref Tarsus) oedd ar un adeg yn cael ei alw yn Saul. Roedd o’n Iddew, yn un o’r Phariseaid ac yn ddinesydd Rhufeinig. Cafodd ei ddysgu gan y Rabi enwog Gamaliel. Pan oedd yn ddyn ifanc roedd Paul yn erlid y Cristnogion cynnar, ond dyma fo’n cyfarfod Iesu mewn ffordd ddramatig iawn wrth fynd i Ddamascus (Actau 9) – profiad newidiodd ei fywyd yn llwyr. Cafodd gomisiwn gan Iesu i rannu’r efengyl hefo pobl o genhedloedd eraill (nid Iddewon yn unig), ac aeth ar dair taith genhadol i ddweud wrth eraill am Iesu a dechrau eglwysi newydd mewn trefi a dinasoedd, rhai yng ngwlad Twrci a Groeg e.e. Lystra, Philipi, Effesus, Corinth. Mae’r hanes yn llyfr yr Actau. Dyma pam gafodd o’r enw Apostol (mae’r gair yn golygu ‘rhywun sy’n cael ei anfon i wneud rhywbeth’ neu ‘negesydd’). Dioddefodd Paul bob math o beryglon ar y teithiau hyn, ac aeth i’r carchar am rannu’r newyddion da am Iesu. Roedd wedi gobeithio mynd ar bedwaredd taith i Sbaen, ond cafodd ei arestio yn Jerwsalem, a’i gymryd i Rufain i sefyll ei brawf o flaen yr Ymerawdwr. Cafodd ei gadw dan arestiad tŷ am ddwy flynedd, ond mae llyfr yr Actau yn gorffen yn sydyn, heb roi gwybod beth ddigwyddodd iddo fo wedyn. Mae’n debyg iddo gael ei ladd tua 67 O.C. trwy orchymyn Nero.
Mae rhai o lythyrau Paul yn llythyrau at eglwysi newydd, er mwyn eu dysgu a’u calonogi mewn amser anodd, ond mae ganddo hefyd lythyrau personol ysgrifennodd o at unigolion. Mae llythyrau Paul yn bwysig iawn achos maen nhw’n help i ni ddeall mwy am waith Iesu. Maen nhw hefyd yn help i ni fyw fel Cristnogion.
Pryd?
Mae’n anodd rhoi dyddiad pendant i lyfrau’r Testament Newydd ond mae ysgolheigion yn awgrymu fod Rhufeiniaid wedi ei ysgrifennu tua 56 - 57 O.C. pan oedd Paul yn ninas Corinth ar ddiwedd ei drydedd daith genhadol (Actau 20). Roedd am ymweld ag eglwys Rhufain, ond roedd eglwysi eraill wedi gwneud casgliad i helpu Cristnogion tlawd Jerwsalem, ac roedd yn rhaid i Paul fynd â’r arian yma i Jerwsalem cyn gwneud unrhyw beth arall.
Pam?
Erbyn i Paul ysgrifennu’r llythyr hwn, roedd eglwys fawr a llewyrchus yn Rhufain, gyda’r rhan fwyaf o’r bobl yn perthyn i genhedloedd eraill, nid yn Iddewon. Dyn ni ddim yn gwybod sut gychwynnodd yr eglwys. Doedd Paul ddim wedi bod yn Rhufain ond mae’r cyfarchion yn pennod 16 yn dangos ei fod yn adnabod nifer o bobl yno. Mae’r llythyr yn cyflwyno diwinyddiaeth ac athrawiaeth Paul mewn ffordd systematig iawn. Mae’n darllen fel traethawd diwinyddol, ond llythyr ymarferol ydy o, at grŵp o Gristnogion. Mae’n cyflwyno maniffesto’r ffydd Gristnogol, yn disgrifio cynllun Duw i achub pobl. Mae’n sôn yn arbennig am ffydd fel ffordd i ddod i berthynas iawn hefo Duw, a beth mae hynny’n ei olygu ym mywyd y Cristion. Mae rhai yn meddwl bod Paul wedi ysgrifennu’r llythyr er mwyn i’r bobl glywed beth oedd yn ei bregethu, achos doedd o ddim yn gallu mynd atyn nhw i Rufain. Mae eraill yn meddwl ei fod yn trio sbarduno’r eglwys i waith cenhadol. Byddai Paul angen help pobl Rhufain os oedd o am fynd i genhadu i Sbaen. Byddai clywed am haelioni a thrugaredd Duw yn y llythyr yn gwneud i’r eglwys sylweddoli pa mor fawr oedd yr angen i rannu’r Efengyl.
Catrin Roberts
Aberthau byw
1 Felly, am fod Duw wedi bod mor drugarog wrthoch chi, frodyr a chwiorydd, dw i’n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich cyrff iddo fel aberthau byw – rhai sy’n lân ac yn dderbyniol ganddo. Dyna beth ydy addoliad go iawn! 2 O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi’n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau. Byddwch yn gwybod wedyn beth mae Duw eisiau, ac yn gweld fod hynny’n dda ac yn ei blesio fe, ac mai dyna’r peth iawn i’w wneud.
3 Gadewch i mi ddweud hyn wrthoch chi, fel rhywun mae Duw wedi bod mor garedig ato: Peidiwch â meddwl eich bod chi’n well nag ydych chi. Byddwch yn onest gyda chi’ch hun wrth ystyried faint o ffydd mae Duw wedi ei roi i chi. 4 Mae'r eglwys yr un fath â'r corff dynol – mae gwahanol rannau i’r corff, a dydy pob rhan o’r corff ddim yn gwneud yr un gwaith. 5 Yn yr eglwys dyn ni gyda'n gilydd yn gwneud un corff, sef corff y Meseia. Mae pob un ohonon ni’n rhan o’r corff ac mae arnon ni angen pawb arall. 6 Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi’r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan rwyt ti’n gwybod fod Duw am i ti wneud. 7 Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti’r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny’n gydwybodol. 8 Os wyt ti’n rhywun sy’n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti’r ddawn i arwain, gwna hynny'n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny'n llawen.
Cariad
9 Rhaid i'ch cariad chi fod yn gariad go iawn – dim rhyw gariad arwynebol. Yn casáu y drwg â chasineb perffaith, ac yn dal gafael yn beth sy'n dda. 10 Byddwch o ddifri yn eich gofal am eich gilydd, a dangos parch at eich gilydd. 11 Peidiwch byth â gadael i'ch brwdfrydedd oeri, ond bod ar dân yn gweithio i’r Arglwydd yn nerth yr Ysbryd Glân. 12 Byddwch yn llawen wrth feddwl am y cwbl sydd gan Dduw ar eich cyfer chi. Byddwch yn amyneddgar tra dych chi’n dioddef, a daliwch ati i weddïo. 13 Rhannwch beth sydd gynnoch chi gyda phobl Dduw sydd mewn angen. Ewch allan o’ch ffordd i roi croeso i ymwelwyr yn eich cartrefi bob amser.
14 Peidiwch melltithio’r bobl hynny sy'n eich erlid chi – gofynnwch i Dduw eu bendithio nhw. 15 Byddwch yn llawen gyda phobl sy’n hapus, ac wylwch gyda'r rhai sy'n wylo. 16 Byddwch yn ffrindiau da i'ch gilydd. Peidiwch meddwl eich bod yn rhy bwysig i fod yn ffrindiau gyda'r bobl hynny sy'n 'neb’. Peidiwch rhoi’r argraff eich bod yn gwybod y cwbl.
17 Peidiwch byth talu'r pwyth yn ôl. Gadewch i bobl weld eich bod yn gwneud y peth anrhydeddus bob amser. 18 Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb. 19 Peidiwch mynnu dial ar bobl, ffrindiau, gadewch i Dduw ddelio gyda’r peth. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “‘Fi sy'n dial; gwna i dalu yn ôl’ meddai’r Arglwydd.” 20 Dyma ddylet ti ei wneud:
"Os ydy dy elyn yn llwgu, rho fwyd iddo;
os ydy e’n sychedig, rho rywbeth i'w yfed iddo;
wrth wneud hynny byddi'n tywallt marwor tanllyd ar ei ben."
21 Paid gadael i ddrygioni dy ddal yn ei grafangau – trecha di ddrygioni trwy wneud daioni.
