
Mae beibl.net yn aralleiriad cwbl wreiddiol o'r Testament Newydd. Dydy o ddim yn ddiwygiad o unrhyw fersiwn Cymraeg, nac yn gyfieithiad o unrhyw fersiwn Saesneg. Cafodd ei ysgrifennu gan Swyddog Maes GiG, Arfon Jones, ond mae llawer iawn o bobl wedi cyfrannu sylwadau a syniadau ar sut i wella'r drafftiau cynnar, a charem ddiolch i bawb sydd wedi helpu mewn unrhyw ffordd.
Dechreuodd y gwaith fel ymdrech i fynegi neges y Testament Newydd mewn iaith lafar syml. Roedd dau grŵp o ddarllenwyr yn bennaf mewn golwg - pobl ifanc (yn arbennig y rhai hynny heb gefndir capel neu eglwys) a dysgwyr y Gymraeg.
Penderfynwyd yn bennaf defnyddio'r ffurfiau llafar a ddefnyddir ar gyrsiau Wlpan. Ceiswyd hefyd ddilyn y canllawiau a welir mewn llawlyfr a gyhoeddwyd gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ym 1991 - "Ffurfiau Ysgrifenedig Cymraeg Llafar".
Annogir pobl i'w ddarllen gan ynganu'r ffurfiau llafar yn y ffordd fwyaf naturiol iddyn nhw yn eu hardal - e.e.
dyn ni fel dan ni neu den ni neu ŷn ni
dych chi fel dach chi neu dech chi neu ych chi
Gellir cyfnewid mae e am mae o, nawr am rwan etc. etc.
Penderfynwyd ei gyhoeddi ar y We Fydeang oherwydd:
