Mae Efengyl Mathew yn llawn o ddyfyniadau o'r Hen Destament (Ysgrifau Sanctaidd yr Iddewon). Mae'r efengyl yn dangos mai Iesu ydy'r Meseia oedden nhw’n disgwyl amdano. Mae'n adrodd hanes bywyd Iesu o'i eni i'w atgyfodiad, ac yn rhoi sylw helaeth i ddysgeidiaeth Iesu.
MATHEW 2
Ymweliad y gwŷr doeth
1 Cafodd Iesu ei eni yn Bethlehem yn Jwdea, yn y cyfnod pan oedd Herod yn frenin. Ar ôl hynny, daeth gwŷr doeth Ref o wledydd y dwyrain i Jerwsalem 2 i ofyn, “Ble mae'r un sydd newydd gael ei eni yn frenin yr Iddewon? Gwelon ni ei seren yn codi yn y dwyrain, a dŷn ni yma i dalu teyrnged iddo.” 3 Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu'n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. 4 Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i'w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae'r Meseia i fod i gael ei eni?” 5 “Yn Bethlehem Jwdea,” medden nhw. “Dyna ysgrifennodd y proffwyd:Nid rhyw bentref dibwys yn Jwda wyt ti;
achos ohonot ti daw un i deyrnasu,
un fydd yn fugail i arwain fy mhobl Israel.’”Croes
7 Ar ôl cael gwybod hyn, dyma Herod yn galw'r gwŷr doeth i gyfarfod preifat. Cafodd wybod ganddyn nhw pryd yn union oedd y seren wedi ymddangos. 8 Yna dwedodd, “Ewch i Bethlehem i chwilio am y plentyn. A gadewch i mi wybod pan ddewch o hyd iddo, er mwyn i mi gael mynd i dalu teyrnged iddo hefyd.” 9 Ar ôl gwrando beth oedd gan y brenin i'w ddweud, i ffwrdd â nhw. Dyma'r seren yn mynd o'u blaen, nes iddi aros uwchben yr union fan lle roedd y plentyn. 10 Roedden nhw wrth eu bodd! 11 Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr Ref 12 Rhybuddiodd Duw nhw mewn breuddwyd i beidio mynd yn ôl at Herod, felly dyma'r gwŷr doeth yn teithio yn ôl i'w gwlad eu hunain ar hyd ffordd wahanol.Dianc i'r Aifft
13 Ar ôl iddyn nhw fynd, cafodd Joseff freuddwyd arall. Gwelodd angel Duw yn dweud wrtho, “Rhaid i chi ddianc ar unwaith! Dos â'r plentyn a'i fam i'r Aifft, ac aros yno nes i mi ddweud ei bod yn saff i chi ddod yn ôl. Mae Herod yn ceisio dod o hyd i'r plentyn er mwyn ei ladd.” 14 Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda'r plentyn a'i fam. 15 Buon nhw yn yr Aifft nes oedd Herod wedi marw. Felly daeth beth ddwedodd yr Arglwydd drwy'r proffwyd yn wir: “Galwais fy mab allan o'r Aifft.”Croes 16 Aeth Herod yn wyllt gynddeiriog pan sylweddolodd fod y gwŷr doeth wedi'i dwyllo. Anfonodd filwyr i Bethlehem a'r cylch i ladd pob bachgen bach dan ddwyflwydd oed – hynny ar sail beth oedd y gwŷr doeth wedi'i ddweud wrtho am y dyddiad y daeth y seren i'r golwg. 17 A dyna sut daeth geiriau y proffwyd Jeremeia yn wir:18 “Mae cri i'w chlywed yn Rama,
sŵn wylo chwerw a galaru mawr –
Rachel yn crio am ei phlant.
Mae'n gwrthod cael ei chysuro,
am eu bod nhw wedi mynd.”Croes