1 CRONICL 2
Meibion Israel (sef Jacob)
(Genesis 35:23-26)
1 Dyma feibion Israel: Reuben, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.
2 Dan, Joseff, Benjamin, Nafftali, Gad, ac Asher.
Disgynyddion Jwda
3 Meibion Jwda: Er, Onan a Shela. (Cafodd y tri yma eu geni i wraig o Canaan, sef merch Shwa.) Roedd Er, mab hynaf Jwda, yn gwneud pethau oedd ddim yn plesio'r ARGLWYDD, felly dyma'r ARGLWYDD yn ei ladd e.
4 Yna dyma Tamar, merch-yng-nghyfraith Jwda yn cael dau fab iddo – sef Perets a Serach. Felly roedd gan Jwda bump mab i gyd.
5 Meibion Perets: Hesron a Chamŵl.
6 Meibion Serach: Simri, Ethan, Heman, Calcol a Dara – pump i gyd.
7 Mab Carmi: Achar, yr un achosodd helynt i Israel drwy ddwyn beth oedd wedi'i gysegru i Dduw.
8 Mab Ethan: Asareia.
9 Meibion Hesron: Ierachmeël, Ram a Caleb. Ref
O Ram i Dafydd
- 10 Ram oedd tad Aminadab,
- Aminadab oedd tad Nachshon, pennaeth llwyth Jwda.
- 11 Nachshon oedd tad Salma,
- a Salma oedd tad Boas.
- 12 Boas oedd tad Obed,
- ac Obed oedd tad Jesse.
13 Jesse oedd tad Eliab (ei fab hynaf), yna Abinadab, Shamma, Ref
14 Nethanel, Radai,
15 Otsem a Dafydd.
16 A'u chwiorydd nhw oedd Serwia ac Abigail. Roedd gan Serwia dri mab – Abishai, Joab ac Asahel.
17 Cafodd Abigail fab o'r enw Amasa, a'r tad oedd Jether yr Ismaeliad.
Disgynyddion Caleb
18 Cafodd Caleb fab Hesron blant gyda'i wraig Aswba a gyda Ierioth. Ei meibion hi oedd Ieser, Shofaf ac Ardon.
19 Pan fuodd Aswba farw, dyma Caleb yn priodi Effrath, a chafodd hi fab arall iddo, sef Hur.
20 Hur oedd tad Wri, ac Wri oedd tad Betsalel.
21 Dyma Hesron yn cael rhyw gyda merch i Machir (tad Gilead). Roedd e wedi'i phriodi pan oedd yn chwe deg oed. A dyma hi'n cael mab iddo, sef Segwf.
22 Segwf oedd tad Jair, oedd yn berchen dau ddeg tri o bentrefi yn ardal Gilead.
23 (Ond dyma Geshwr a Syria yn dal pentrefi Jair, a tref Cenath hefyd gyda'r chwe deg pentref o'i chwmpas.) Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Machir, tad Gilead.
24 Ar ôl i Hesron farw dyma Caleb ei fab yn cael rhyw gydag Effrath, gweddw ei dad. A dyma hi'n cael mab iddo fe, sef Ashchwr, ddaeth yn dad i Tecoa.
Disgynyddion Ierachmeël
25 Meibion Ierachmeël, mab hynaf Hesron: Ram (yr hynaf), Bwna, Oren, Otsem ac Achïa.
26 Ac roedd gan Ierachmeël wraig arall o'r enw Atara, a hi oedd mam Onam.
27 Meibion Ram (mab hynaf Ierachmeël): Maas, Iamîn ac Ecer.
28 Meibion Onam: Shammai a Iada.
Meibion Shammai: Nadab ac Afishŵr.
29 Gwraig Afishŵr oedd Abihaïl, gafodd ddau blentyn iddo, sef Achban a Molid.
30 Meibion Nadab: Seled ac Apaïm. (Buodd Seled farw heb gael plant.)
31 Mab Apaïm: Ishi.
Mab Ishi: Sheshan.
Mab Sheshan: Achlai.
32 Meibion Iada (brawd Shammai): Jether a Jonathan. (Buodd Jether farw heb gael plant.)
33 Meibion Jonathan: Peleth a Sasa.
Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ierachmeël.
34 Doedd gan Sheshan ddim meibion, dim ond merched. Roedd ganddo was o'r enw Iarcha oedd yn Eifftiwr.
35 A dyma Sheshan yn rhoi un o'i ferched yn wraig i Iarcha, a dyma hi'n cael mab iddo, sef Attai.
- 36 Attai oedd tad Nathan,
- Nathan oedd tad Safad,
- 37 Safad oedd tad Efflal,
- Efflal oedd tad Obed,
- 38 Obed oedd tad Jehw,
- Jehw oedd tad Asareia,
- 39 Asareia oedd tad Chelets,
- Chelets oedd tad Elasa,
- 40 Elasa oedd tad Sismai,
- Sismai oedd tad Shalwm,
- 41 Shalwm oedd tad Iecameia,
- a Iecameia oedd tad Elishama.
Mwy o ddisgynyddion Caleb
42 Meibion Caleb, brawd Ierachmeël: Mesha (ei fab hynaf), oedd yn dad i Siff, a Maresha (ei ail fab), oedd yn dad i Hebron.
43 Meibion Hebron: Cora, Tapŵach, Recem a Shema.
- 44 Shema oedd tad Racham, oedd yn dad i Iorceam.
- Recem oedd tad Shammai.
- 45 Mab Shammai oedd Maon, oedd yn dad i Beth-tswr.
46 Dyma Effa, partner Ref Caleb, yn geni Charan, Motsa a Gases. Charan oedd tad Gases.
47 Meibion Iahdai: Regem, Jotham, Geshan, Pelet, Effa a Shaäff.
48 Dyma Maacha, partner Caleb, yn geni Shefer a Tirchana.
49 Hi hefyd oedd mam Shaäff oedd yn dad i Madmanna, a Shefa oedd yn dad i Machbena a Gibea. Merch arall Caleb oedd Achsa.
50 Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Caleb.
Meibion Hur, mab hynaf Effrath, gwraig Caleb: Shofal (hynafiad pobl Ciriath-iearîm),
51 Salma (hynafiad pobl Bethlehem), a Chareff (hynafiad pobl Beth-gader).
52 Disgynyddion Shofal, hynafiad Ciriath-iearîm, oedd Haroe a hanner y Menwchoiaid,
53 llwythau Ciriath-iearîm – yr Ithriaid, Pwthiaid, Shwmathiaid, a'r Mishraiaid. (Roedd y Soriaid a'r Eshtaoliaid yn ddisgynyddion i'r grwpiau yma hefyd.)
54 Disgynyddion Salma: pobl Bethlehem, y Netoffathiaid, Atroth-beth-joab, hanner arall y Manachathiaid, y Soriaid,
55 a theuluoedd yr ysgrifenyddion oedd yn byw yn Iabets, sef y Tirathiaid, Shimeathiaid, a'r Swchathiaid. Y rhain ydy'r Ceneaid, sy'n ddisgynyddion i Chamath, tad Beth-rechab.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity