1 CRONICL 3
Meibion Dafydd
1 Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron:
- Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel.
- Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
- 2 Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr.
- Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
- 3 Y pumed oedd Sheffateia mab Abital.
- Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
4 Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner.
Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
5 A dyma'r meibion gafodd e yno: Shamma, Ref Shofaf, Nathan, a Solomon. Mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
6 Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet,
7 Noga, Neffeg, Jaffîa,
8 Elishama, Eliada, ac Eliffelet.
9 Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Ref Tamar oedd eu chwaer nhw.
Disgynyddion Solomon
10 Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,
11 Jehoram, Ahaseia, Joas,
12 Amaseia, Asareia, Ref Jotham,
13 Ahas, Heseceia, Manasse,
14 Amon, a Joseia
15 a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm. Ref
16 Jehoiacim oedd tad Jehoiachin Ref a Sedeceia.
Disgynyddion Jehoiachin
17 Meibion Jehoiachin (gafodd ei gaethgludo): Shealtiel,
18 Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
19 Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei.
Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.
20 Hefyd pump arall, sef Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
21 Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
22 Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barîach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.
23 Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
24 Meibion Elioenai: Hodafiâ, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity