1 CRONICL 6
Llinach y prif offeiriaid (Disgynyddion Lefi)
1 Meibion Lefi: Gershon, Cohath, a Merari.
2 Disgynyddion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel.
3 Plant Amram: Aaron, Moses, a Miriam.
Meibion Aaron: Nadab, Abihw, Eleasar, ac Ithamar.
4 Eleasar oedd tad Phineas, Phineas yn dad i Afishŵa,
5 Afishŵa i Bwcci, a Bwcci i Wssi.
6 Wssi oedd tad Seracheia, Seracheia yn dad i Meraioth.
7 Meraioth oedd tad Amareia, ac Amareia yn dad i Achitwf.
8 Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Achimaäts.
9 Achimaäts oedd tad Asareia, ac Asareia oedd tad Iochanan.
10 A Iochanan oedd tad yr Asareia oedd yn offeiriad yn y deml roedd Solomon wedi'i hadeiladu yn Jerwsalem.
11 Asareia oedd tad Amareia, ac roedd Amareia yn dad i Achitwf.
12 Achitwf oedd tad Sadoc, a Sadoc yn dad i Shalwm.
13 Roedd Shalwm yn dad i Chilceia, Chilceia i Asareia,
14 Asareia i Seraia, a Seraia i Iehotsadac.
15 Cafodd Iehotsadac ei gymryd yn gaeth pan wnaeth yr ARGLWYDD ddefnyddio Nebwchadnesar i gymryd pobl Jwda a Jerwsalem i'r gaethglud.
Claniau y Lefiaid
16 Meibion Lefi: Gershom, Cohath, a Merari.
17 Meibion Gershom: Libni a Shimei.
18 Meibion Cohath: Amram, Its'har, Hebron, ac Wssiel.
19 Meibion Merari: Machli a Mwshi.
Dyma'r claniau o Lefiaid bob yn deulu.
20 Disgynyddion Gershom: Libni, ei fab, wedyn Iachath ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Simma,
21 Ioach, Ido, Serach, i Ieatrai.
22 Disgynyddion Cohath: Aminadab, ei fab, wedyn Cora, ei fab e, ac i lawr y cenedlaethau drwy Assir,
23 Elcana, Ebiasaff, Assir,
24 Tachath, Wriel, Wseia, i Saul.
25 Disgynyddion Elcana: Amasai ac Achimoth,
26 wedyn ei fab Elcana, a'i fab e, Soffai, ac i lawr drwy Nachath,
27 Eliab, Ierocham, a'i fab e Elcana.
28 Meibion Samuel: Joel, Ref y mab hynaf, ac Abeia, yr ail.
29 Disgynyddion Merari: Machli, ei fab Libni, wedyn ei fab e Shimei ac i lawr y cenedlaethau drwy Wssa,
30 Shimea, Haggia, yna Asaia.
Cerddorion y Deml
31 Dyma'r rhai oedd Dafydd wedi'u penodi i arwain y gerddoriaeth yn y cysegr, ar ôl i'r arch gael ei gosod yno.
32 Buon nhw'n arwain y gerddoriaeth o flaen cysegr pabell presenoldeb Duw nes i Solomon adeiladu'r deml yn Jerwsalem. Roedden nhw ar ddyletswydd yn y drefn oedd wedi'i gosod.
33 Dyma'r rhai oedd yn y swydd yma, nhw a'u meibion:
Disgynyddion Cohath: Heman y cerddor, mab Joel oedd a'i linach yn estyn yn ôl drwy Samuel,
34 Elcana, Ierocham, Eliel, Toach,
35 Swff, Elcana, Machat, Amasai,
36 Elcana, Joel, Asareia, Seffaneia,
37 Tachath, Assir, Ebiasaff, Cora,
38 Its'har, Cohath, i Lefi.
39 Yna Asaff, un arall o lwyth Lefi, oedd yn ei helpu. Asaff oedd mab Berecheia, a'i linach yn estyn yn ôl drwy Shimea,
40 Michael, Baaseia, Malcîa,
41 Ethni, Serach, Adaia,
42 Ethan, Simma, Shimei,
43 Iachath, a Gershom, i Lefi.
44 Yna, yn eu helpu nhw, roedd eraill o lwyth Lefi oedd yn ddisgynyddion i Merari. Eu harweinydd nhw oedd Ethan fab Cishi, oedd a'i linach yn estyn yn ôl drwy Afdi, Malŵch,
45 Chashafeia, Amaseia, Chilceia,
46 Amtsi, Bani, Shemer,
47 Machli, Mwshi, a Merari, i Lefi.
48 Roedd gweddill y Lefiaid yn gyfrifol am bopeth arall roedd angen ei wneud yn y tabernacl, sef cysegr Duw.
Disgynyddion Aaron
49 Ond Aaron a'i feibion oedd yn gweini wrth yr allor lle roedd anifeiliaid yn cael eu llosgi a'r allor lle roedd arogldarth yn cael ei losgi. Nhw, felly, oedd yn gwneud y gwaith yn y Lle Mwyaf Sanctaidd. Roedden nhw'n gwneud pethau'n iawn rhwng Duw ac Israel, fel roedd Moses gwas yr ARGLWYDD wedi gorchymyn.
50 Dyma ddisgynyddion Aaron: Eleasar ei fab, wedyn Phineas ei fab e, ac ymlaen drwy Afishŵa,
51 Bwcci, Wssi, Seracheia,
52 Meraioth, Amareia, Achitwf,
53 Sadoc, ac Achimaäts.
Trefi a thir y Lefiaid
54 A dyma'r ardaloedd lle roedd disgynyddion Aaron yn byw:
Yr ardaloedd gafodd eu rhoi i glan Cohath (Nhw oedd y grŵp cyntaf i gael eu rhan):
55 Dyma nhw'n cael tref Hebron yn Jwda, a'r tir pori o'i chwmpas.
56 (Ond roedd caeau'r dref a'r pentrefi o'i chwmpas wedi'u rhoi i Caleb fab Jeffwnne.)
57 Cafodd disgynyddion Aaron y trefi lloches canlynol hefyd: Hebron, Libna, Iattir, Eshtemoa,
58 Cholon, Debir,
59 Ashan, a Beth-shemesh, a'r tir pori o gwmpas pob un.
60 Yna o fewn tiriogaeth llwyth Benjamin dyma nhw'n cael Geba, Alemeth, Anathoth, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.
Felly cafodd eu claniau nhw un deg tair o drefi i gyd.
61 A chafodd gweddill disgynyddion Cohath ddeg pentref oedd o fewn i diriogaeth hanner llwyth Manasse.
62 Cafodd claniau Gershom un deg tair o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Issachar, Asher, Nafftali a Manasse.
63 Cafodd claniau Merari un deg dwy o drefi oedd o fewn tiriogaeth llwythau Reuben, Gad a Sabulon.
64 Rhoddodd pobl Israel y trefi yma, a'r tir pori o'u cwmpas, i lwyth Lefi.
65 Roedd y trefi yma, o diriogaeth Jwda, Simeon a Benjamin, wedi'u henwi ymlaen llaw.
66 Cafodd rhai o deuluoedd disgynyddion Cohath dir o fewn tiriogaeth llwyth Effraim.
67 Sichem, ym mryniau Effraim, Geser,
68 Iocmeam, a Beth-choron,
69 Aialon, a Gath-rimmon a'r tir pori o gwmpas pob un.
70 O diriogaeth hanner llwyth Manasse dyma weddill disgynyddion Cohath yn cael Aner a Bileam, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.
71 Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Gershom: O hanner llwyth Manasse dyma nhw'n rhoi Golan yn Bashan ac Ashtaroth, a'r tir pori o'u cwmpas nhw.
72 O diriogaeth llwyth Issachar: Cedesh, Daberath,
73 Ramoth, ac Anem, a'r tir pori o gwmpas pob un.
74 O diriogaeth llwyth Asher: Mashal, Abdon,
75 Chwcoc, a Rechob, a'r tir pori o gwmpas pob un.
76 O diriogaeth llwyth Nafftali: Cedesh yn Galilea, Chammôn, a Ciriathaim, a'r tir pori o gwmpas y rheiny.
77 Dyma'r trefi gafodd eu rhoi i deuluoedd gweddill disgynyddion Merari: O diriogaeth llwyth Sabulon: Rimmon a Tabor a'r tir pori o'u cwmpas.
78 O diriogaeth llwyth Reuben, yr ochr draw i afon Iorddonen i'r dwyrain o Jericho: Betser yn yr anialwch, Iahats,
79 Cedemoth, a Meffaäth, a'r tir pori o gwmpas pob un o'r rheiny.
80 O diriogaeth llwyth Gad: Ramoth yn Gilead, Machanaîm,
81 Cheshbon, a Iaser, a'r tir pori o gwmpas pob un.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity