|
|
(2 Cronicl 9:1-12)
1 Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. 2 Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. 3 Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. 4-5 Roedd y frenhines wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi'i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml. 6 A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi'u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. 7 Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. 8 Mae'r bobl yma wedi'u bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. 9 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.” 10 A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â'r hyn roedd brenhines Sheba wedi'i roi i'r Brenin Solomon.(2 Cronicl 9:13-28)
11 (Roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig hefyd, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr. 12 Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!) 13 Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi'i roi iddi o'i haelioni ei hun. A dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision. 14 Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell Ref o aur bob blwyddyn, 15 heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau. 16 Gwnaeth Solomon ddau gant o darianau mawr o aur wedi'i guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian! 17 Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron dau cilogram Ref o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus. 18 Wedyn, dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi'i gorchuddio gydag aur coeth. 19 Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau bob ochr. 20 Wedyn roedd un deg dau o lewod yn sefyll ar y grisiau, un bob ochr i bob gris. Doedd gan yr un deyrnas arall orsedd debyg iddi! 21 Roedd holl gwpanau y Brenin Solomon wedi'u gwneud o aur, a llestri Plas Coedwig Libanus i gyd o aur pur. Doedd dim byd wedi'i wneud o arian, achos doedd arian ddim yn cael ei gyfri'n werthfawr iawn bryd hynny. 22 Roedd gan Solomon fflyd o longau masnach mawr Ref yn hwylio'r môr gyda llongau Hiram. Bob tair blynedd roedd y llongau hynny'n dod yn ôl gydag aur, arian, ifori, mwncïod a pheunod. Ref ’ 23 Felly roedd y Brenin Solomon yn fwy cyfoethog ac yn ddoethach nag unrhyw frenin arall yn unman. 24 Ac roedd y byd i gyd eisiau dod i ymweld â Solomon i wrando ar y doethineb roedd yr ARGLWYDD wedi'i roi iddo. 25 Bob blwyddyn roedd pobl yn dod â rhoddion iddo: llestri arian, llestri aur, dillad, arfau, perlysiau, ceffylau a mulod. 26 Roedd Solomon hefyd wedi casglu cerbydau a cheffylau rhyfel. Roedd ganddo fil pedwar cant o gerbydau, ac un deg dwy o filoedd o geffylau. Roedd yn eu cadw yn y trefi cerbydau ac yn Jerwsalem. 27 Roedd arian mor gyffredin â cherrig yn Jerwsalem, a choed cedrwydd mor gyffredin â'r coed sycamor sy'n tyfu ym mhobman ar yr iseldir. 28 Roedd ceffylau Solomon wedi'u mewnforio o'r Aifft a Cwe. Ref Roedd masnachwyr y brenin yn eu prynu nhw yn Cwe. 29 Roedden nhw'n talu chwe chant o ddarnau arian am gerbyd o'r Aifft, a chant pum deg darn arian am geffyl. Roedden nhw hefyd yn eu gwerthu ymlaen i frenhinoedd yr Hethiaid a'r Syriaid.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity