|
|
(2 Cronicl 10:1-19)
1 Dyma Rehoboam yn mynd i Sichem, lle roedd pobl Israel gyfan wedi dod i'w wneud yn frenin. 2 Roedd Jeroboam fab Nebat yn dal yn yr Aifft ar y pryd, wedi ffoi yno oddi wrth y Brenin Solomon. Roedd yn dal yn yr Aifft pan glywodd beth oedd yn digwydd. 3 Ond dyma bobl Israel yn anfon amdano, a dyma fe'n mynd gyda nhw i weld Rehoboam. 4 “Roedd dy dad yn ein gweithio ni'n galed, ac yn gwneud bywyd yn faich. Os gwnei di symud y baich a gwneud pethau'n haws i ni, gwnawn ni dy wasanaethu di.” 5 Dyma Rehoboam yn dweud wrthyn nhw, “Dewch yn ôl mewn deuddydd, i mi gael meddwl am y peth.” A dyma nhw'n ei adael. 6 Dyma'r Brenin Rehoboam yn gofyn am farn y cynghorwyr hŷn (y rhai oedd yn gweithio i Solomon ei dad pan oedd yn dal yn fyw). “Beth ydy'ch cyngor chi? Sut ddylwn ni ateb y bobl yma?” 7 A dyma nhw'n dweud, “Os byddi di'n garedig a dangos dy fod eisiau eu helpu nhw, byddan nhw'n weision ffyddlon i ti am byth.” 8 Ond dyma Rehoboam yn anwybyddu'u cyngor nhw, ac yn troi at y cynghorwyr ifanc yn y llys oedd yr un oed ag e. 9 Dyma fe'n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ddweud wrth y bobl yma sy'n gofyn i mi symud y baich roddodd fy nhad arnyn nhw?” 10 A dyma'r dynion ifainc yn dweud wrtho, “Dwed wrth y bobl yna sy'n cwyno ac yn gofyn i ti symud y baich roedd dy dad wedi'i roi arnyn nhw, ‘Mae fy mys bach i yn mynd i fod yn gryfach na dad! Ref 11 Oedd fy nhad wedi rhoi baich trwm arnoch chi? Bydda i'n rhoi baich trymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!’” 12 Dyma Jeroboam, a'r bobl oedd gydag e, yn mynd yn ôl at Rehoboam ar ôl deuddydd, fel roedd y brenin wedi dweud. 13 A dyma'r brenin yn siarad yn chwyrn gyda'r bobl, ac yn anwybyddu cyngor y dynion hŷn 14 a gwrando ar y dynion ifanc. “Oedd fy nhad yn drwm arnoch chi?” meddai. “Wel, bydda i'n pwyso'n drymach! Oedd fy nhad yn defnyddio chwip i'ch cosbi chi? Bydda i'n defnyddio chwip fydd yn rhwygo'ch cnawd chi!” 15 Roedd y brenin yn gwrthod gwrando ar y bobl. Ond roedd llaw'r ARGLWYDD tu ôl i'r cwbl oedd yn digwydd, er mwyn i'r neges roedd wedi'i rhoi i Jeroboam fab Nebat drwy Achïa o Seilo ddod yn wir. 16 Pan welodd y bobl fod y brenin yn gwrthod gwrando arnyn nhw, dyma nhw'n rhoi'r neges yma iddo:“Beth sydd gynnon ni i'w wneud â Dafydd?
Dŷn ni ddim yn perthyn i deulu Jesse!
Yn ôl adre bobl Israel!
Cadw dy linach dy hun, Dafydd!”
Felly dyma bobl Israel yn mynd adre. 17 (Er, roedd rhai o bobl Israel yn byw yn nhrefi Jwda, a Rehoboam oedd eu brenin nhw.) 18 Dyma'r Brenin Rehoboam yn anfon Adoniram, swyddog y gweithlu gorfodol, at bobl Israel, ond dyma nhw'n taflu cerrig ato a'i ladd. Felly dyma'r Brenin Rehoboam yn neidio yn ei gerbyd a dianc yn ôl i Jerwsalem. 19 Mae gwrthryfel llwythau Israel yn erbyn disgynyddion Dafydd wedi para hyd heddiw. 20 Pan glywodd pobl Israel fod Jeroboam wedi dod yn ôl, dyma nhw'n galw pawb at ei gilydd. Yna dyma nhw'n anfon amdano a'i wneud e'n frenin ar Israel gyfan. Dim ond llwyth Jwda Ref oedd yn aros yn ffyddlon i deulu brenhinol Dafydd.(2 Cronicl 11:1-4)
21 Daeth Rehoboam, mab Solomon, yn ôl i Jerwsalem a galw dynion Jwda a llwyth Benjamin at ei gilydd. Roedd ganddo gant wyth deg mil o filwyr profiadol i fynd i ryfel yn erbyn Israel a cheisio ennill y deyrnas yn ôl. 22 Ond cafodd Shemaia y proffwyd Ref neges gan Dduw. 23 “Dwed hyn wrth Rehoboam brenin Jwda ac wrth bobl Jwda a Benjamin, a phawb arall: 24 ‘Mae'r ARGLWYDD yn dweud, “Peidiwch mynd i ryfel yn erbyn eich brodyr, pobl Israel. Ewch adre i gyd, am mai fi sydd wedi gwneud i hyn ddigwydd.”’” A dyma nhw'n gwrando ar yr ARGLWYDD a mynd yn ôl adre fel roedd e wedi dweud.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity