|
|
Bydd yr allor yn cael ei dryllio,
a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’”
4 Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi'i hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl. 5 Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD. 6 Ymateb y brenin oedd pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iach fel o'r blaen. 7 Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.” 8 Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma. 9 Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” 10 Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel. 11 Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud wrtho am beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi'i ddweud wrth y brenin. 12 A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion iddo pa ffordd roedd y proffwyd o Jwda wedi mynd. 13 Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn 14 a mynd ar ôl y proffwyd. Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?” A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.” 15 Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.” 16 Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma. 17 Dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’” 18 Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e. 19 Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ. 20 Tra oedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi'i ddenu'n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac 21 yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti. 22 Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’” 23 Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda. 24 Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. 25 Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw. 26 Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.” 27 Yna gofynnodd i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny 28 dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nac ymosod ar yr asyn.) 29 Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu. 30 Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!” 31 Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e. 32 Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.” 33 Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job. 34 Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a'i ddileu oddi ar wyneb y ddaear.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity