|
|
Bydda i'n cael gwared â phob dyn Ref yn Israel,
y caeth a'r rhydd.
Bydda i'n carthu teulu brenhinol Jeroboam
ac yn llosgi'r carthion nes bod dim ar ôl!
11 Bydd pobl Jeroboam sy'n marw yn y ddinas
yn cael eu bwyta gan y cŵn.
Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad
yn cael eu bwyta gan yr adar!
—dw i, yr
ARGLWYDD wedi dweud!’ 12 “Dos di adre. Pan fyddi'n cyrraedd y ddinas bydd y plentyn yn marw. 13 Bydd pobl Israel i gyd yn galaru ar ei ôl ac yn mynd i'w angladd. Fe fydd yr unig un o deulu Jeroboam fydd yn cael ei gladdu'n barchus, am mai fe ydy'r unig un o'r teulu mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gweld unrhyw ddaioni ynddo. 14 Bydd yr ARGLWYDD yn codi brenin iddo'i hun fydd yn difa teulu Jeroboam yn llwyr. Bydd hyn yn digwydd ar unwaith! A beth ddaw wedyn? 15 Bydd yr ARGLWYDD yn taro Israel fel brwynen yn cael ei chwipio yn llif yr afon. Bydd yn ei thynnu o'r tir da yma roddodd i'w hynafiaid ac yn gyrru'r bobl ar chwâl yr ochr draw i afon Ewffrates. Bydd yn gwneud hyn am eu bod wedi'i wylltio drwy godi polion pren i'r dduwies Ashera. 16 Bydd yr ARGLWYDD yn troi ei gefn ar Israel o achos yr eilunod mae Jeroboam wedi'u codi, i achosi i bobl Israel bechu.” 17 Felly dyma wraig Jeroboam yn mynd yn ôl i Tirtsa. Wrth iddi gyrraedd drws y tŷ, dyma'r bachgen yn marw. 18 A dyma nhw'n ei gladdu a daeth Israel i gyd i alaru ar ei ôl, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud drwy ei was y proffwyd Achïa. 19 Mae gweddill hanes Jeroboam, hanes ei ryfeloedd a'i deyrnasiad, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel. 20 Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin am ddau ddeg dwy o flynyddoedd. Ar ôl iddo farw daeth Nadab ei fab yn frenin yn ei le.(2 Cronicl 11:5—12:15)
21 Rehoboam, mab Solomon, oedd brenin Jwda. Roedd yn bedwar deg un oed pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg saith o flynyddoedd (Jerwsalem – y ddinas roedd yr ARGLWYDD wedi'i dewis allan o holl lwythau Israel i fyw ynddi.) Naamâ, gwraig o wlad Ammon, oedd mam Rehoboam. 22 Roedd pobl Jwda yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac yn ei ddigio fwy nag roedd eu hynafiaid wedi gwneud. 23 Roedden nhw'n codi allorau lleol, colofnau cysegredig i Baal a pholion y dduwies Ashera ar ben bryniau ac o dan pob coeden ddeiliog. 24 Roedd yna hyd yn oed ddynion oedd yn buteiniaid teml yn y wlad. Roedden nhw'n gwneud pethau cwbl ffiaidd, dim gwahanol i'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi'u gyrru allan o'r wlad o flaen Israel. 25 Yna, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. 26 Dyma fe'n dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a phalas y brenin – y cwbl i gyd, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud! 27 Dyma'r Brenin Rehoboam yn gwneud tarianau o bres yn eu lle, a'u rhoi nhw yng ngofal swyddogion y gwarchodlu oedd yn amddiffyn palas y brenin. 28 Bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu cario ac yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. 29 Mae gweddill hanes Rehoboam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. 30 Roedd Rehoboam a Jeroboam yn rhyfela yn erbyn ei gilydd drwy'r amser. 31 Pan fu farw, cafodd Rehoboam ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Naamâ, gwraig o wlad Ammon oedd ei fam. A'i fab, Abeiam, ddaeth yn frenin yn ei le.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity