|
|
(2 Cronicl 13:1—14:1)
1 Daeth Abeiam yn frenin ar Jwda pan oedd Jeroboam fab Nebat wedi bod yn frenin Israel ers un deg wyth o flynyddoedd. 2 Bu'n frenin yn Jerwsalem am dair blynedd. Enw ei fam oedd Maacha, merch Afishalom. 3 Roedd yn gwneud yr un pethau drwg â'i dad o'i flaen. Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i'r ARGLWYDD fel roedd y Brenin Dafydd wedi bod. 4 Ond am ei fod yn un o ddisgynyddion Dafydd dyma'r ARGLWYDD ei Dduw yn cadw'r llinach yn fyw yn Jerwsalem, drwy roi mab iddo i'w olynu fel brenin a gwneud Jerwsalem yn ddiogel. 5 Roedd hyn am fod Dafydd wedi plesio'r ARGLWYDD, ac wedi bod yn gwbl ufudd iddo ar hyd ei oes (heblaw am beth wnaeth e i Wreia yr Hethiad). 6 Roedd y rhyfel rhwng Rehoboam a Jeroboam wedi para tra oedd Abeiam yn fyw. 7 Mae gweddill hanes Abeiam, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Roedd y rhyfel wedi para rhwng Abeiam a Jeroboam. 8 Pan fu farw, cafodd Abeiam ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le.(2 Cronicl 15:16—16:6)
9 Roedd Jeroboam wedi bod yn frenin ar Israel am ugain mlynedd pan ddaeth Asa yn frenin ar Jwda. 10 Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg un o flynyddoedd. Maacha, merch Afishalom oedd ei nain. 11 Fel y Brenin Dafydd, ei hynafiad, roedd Asa yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. 12 Gyrrodd y dynion oedd yn buteiniaid teml allan o'r wlad, a chael gwared â'r holl eilunod ffiaidd roedd ei gyndadau wedi'u gwneud. 13 Roedd hyd yn oed wedi diswyddo ei nain, Maacha, o fod yn fam frenhines am ei bod wedi gwneud polyn Ashera ffiaidd. Torrodd y polyn i lawr, a'i losgi wrth Ddyffryn Cidron. 14 Er ei fod heb gael gwared â'r allorau lleol, roedd Asa yn ffyddlon i'r ARGLWYDD ar hyd ei oes. 15 Daeth â'r celfi roedd e a'i dad wedi'u cysegru (rhai aur, arian, a llestri eraill), a'u gosod yn nheml yr ARGLWYDD. 16 Roedd Asa, brenin Jwda yn rhyfela yn erbyn Baasha, brenin Israel drwy'r amser. 17 Dyma Baasha, brenin Israel, yn ymosod ar Jwda, ac yn adeiladu Rama yn gaer filwrol i rwystro pobl rhag mynd a dod i diriogaeth Asa brenin Jwda. 18 Felly dyma Asa yn cymryd y cwbl o'r arian a'r aur oedd ar ôl yn stordai teml yr ARGLWYDD a stordai palas y brenin, a rhoi'r cwbl i'w weision i fynd i Damascus at Ben-hadad, Ref brenin Syria (sef mab Tabrimon ac ŵyr Chesion), gyda'r neges yma: 19 “Dw i eisiau gwneud cytundeb heddwch gyda ti, fel roedd yn arfer bod rhwng fy nhad a dy dad di. Dw i'n anfon y rhodd yma o arian ac aur i ti. Dw i eisiau i ti dorri'r cytundeb sydd rhyngot ti a Baasha, brenin Israel, er mwyn iddo stopio ymosod arnon ni.” 20 Dyma Ben-hadad yn derbyn cynnig y Brenin Asa, a dyma fe'n dweud wrth swyddogion ei fyddin am ymosod ar drefi Israel. Felly dyma nhw'n mynd a tharo Îon, Dan, Abel-beth-maacha a thir llwyth Nafftali i gyd, gan gynnwys ardal Cinnereth. 21 Pan glywodd Baasha am y peth, dyma fe'n stopio adeiladu Rama a symud ei fyddin yn ôl i Tirtsa. 22 Yna dyma'r Brenin Asa yn gorchymyn i bobl Jwda – pawb yn ddieithriad – i fynd i nôl y cerrig a'r coed roedd Baasha wedi bod yn eu defnyddio i adeiladu Rama. A dyma Asa yn eu defnyddio nhw i adeiladau Geba yn Benjamin a Mitspa. 23 Mae gweddill hanes Asa, ei lwyddiant milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, a rhestr o'r holl drefi wnaeth e eu hadeiladu, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda. Ond pan oedd yn hen roedd Asa'n dioddef yn ddifrifol o'r gowt. 24 Pan fuodd Asa farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity