1 BRENHINOEDD 16
1 Dyma Jehw fab Chanani yn cael neges gan yr ARGLWYDD i'w rhoi i Baasha.
2 “Gwnes i dy godi di o'r llwch a dy wneud yn arweinydd fy mhobl Israel, ond ti wedi ymddwyn fel Jeroboam a gwneud i'm pobl bechu. Dw i wedi gwylltio'n lân gyda nhw.
3 Felly, dw i'n mynd i gael gwared â dy deulu di, Baasha. Bydda i'n gwneud yr un peth i dy deulu di ag a wnes i i deulu Jeroboam fab Nebat.
4 Bydd pobl Baasha sy'n marw yn y ddinas
yn cael eu bwyta gan y cŵn.
Bydd y rhai sy'n marw yng nghefn gwlad
yn cael eu bwyta gan yr adar!”
5 Mae gweddill hanes Baasha – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
6 Pan fu Baasha farw cafodd ei gladdu yn Tirtsa. Daeth Ela, ei fab, yn frenin yn ei le.
7 Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi neges i Baasha a'i deulu drwy'r proffwyd Jehw fab Chanani. Roedd yr holl ddrwg wnaeth Baasha wedi gwylltio'r ARGLWYDD, gan gynnwys y ffordd wnaeth e ddelio gyda theulu Jeroboam. Doedd e'i hun ddim gwahanol!
Ela, brenin Israel
8 Daeth Ela yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg chwech o flynyddoedd. Bu Ela'n frenin yn Tirtsa am ddwy flynedd.
9 Ond dyma Simri, un o'i swyddogion oedd yn gapten ar hanner y cerbydau rhyfel, yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd y brenin wedi meddwi ar ôl bod yn yfed yn drwm yn nhŷ Artsa (sef prif swyddog palas y brenin yn Tirtsa).
10 Aeth Simri i mewn, ymosod ar Ela a'i ladd. (Digwyddodd hyn pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd.) A dyma Simri yn dod yn frenin ar Israel yn lle Ela.
11 Yn syth ar ôl dod yn frenin dyma Simri yn lladd pawb o deulu brenhinol Baasha. Wnaeth e ddim gadael yr un dyn na bachgen Ref yn fyw – lladdodd aelodau'r teulu a'i ffrindiau i gyd.
12 Felly roedd Simri wedi difa teulu Baasha yn llwyr, yn union fel roedd Duw wedi rhybuddio drwy Jehw y proffwyd.
13 Digwyddodd hyn i gyd oherwydd yr holl bethau drwg roedd Baasha a'i fab Ela wedi'u gwneud. Roedden nhw wedi gwneud i Israel bechu, a gwylltio'r ARGLWYDD gyda'u holl eilunod diwerth.
14 Mae gweddill hanes Ela, a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Simri, brenin Israel
15 Daeth Simri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers dau ddeg saith o flynyddoedd. Bu Simri'n frenin Israel yn Tirtsa am saith diwrnod. Roedd byddin Israel yn ymosod ar Gibbethon, un o drefi'r Philistiaid, ar y pryd.
16 Dyma'r neges yn cyrraedd y gwersyll fod Simri wedi cynllwynio yn erbyn y brenin a'i ladd. Felly, y diwrnod hwnnw yn y gwersyll, dyma'r fyddin yn gwneud Omri, eu cadfridog, yn frenin ar Israel.
17 A dyma Omri a'i fyddin yn gadael Gibbethon a mynd i warchae ar Tirtsa, prifddinas Israel.
18 Roedd Simri'n gweld bod y ddinas wedi'i chipio, felly dyma fe'n mynd i gaer y palas, rhoi'r palas ar dân, a bu farw yn y fflamau.
19 Roedd hyn wedi digwydd am fod Simri wedi pechu. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel gwnaeth Jeroboam; roedd e hefyd wedi gwneud i Israel bechu.
20 Mae gweddill hanes Simri, a hanes ei gynllwyn, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
Omri, brenin Israel
21 Yn y cyfnod yma roedd pobl Israel wedi rhannu'n ddwy garfan. Roedd hanner y boblogaeth eisiau gwneud Tibni fab Ginath yn frenin, a'r hanner arall yn cefnogi Omri.
22 Ond roedd dilynwyr Omri yn gryfach na chefnogwyr Tibni fab Ginath. Bu farw Tibni, a daeth Omri yn frenin.
23 Daeth Omri yn frenin ar Israel pan oedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg un o flynyddoedd. Bu Omri yn frenin am un deg dwy o flynyddoedd, chwech ohonyn nhw yn Tirtsa.
24 Prynodd Omri fryn Samaria gan Shemer am saith deg cilogram o arian. Dyma fe'n adeiladu tref ar y bryn a'i galw'n Samaria, ar ôl Shemer, cyn-berchennog y mynydd.
25 Gwnaeth Omri fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.
26 Roedd yn ymddwyn yr un fath â Jeroboam fab Nebat; roedd yn gwneud i Israel hefyd bechu a gwylltio yr ARGLWYDD, Duw Israel, gyda'u holl eilunod diwerth.
27 Mae gweddill hanes Omri – y cwbl wnaeth e ei gyflawni a'i lwyddiant milwrol – i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.
28 Pan fu farw Omri, cafodd ei gladdu yn Samaria. A dyma Ahab, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.
Ahab, brenin Israel
29 Pan ddaeth Ahab fab Omri, yn frenin ar Israel, roedd Asa wedi bod yn frenin Jwda ers tri deg saith o flynyddoedd. Bu Ahab yn frenin yn Samaria am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.
30 Gwnaeth Ahab fwy o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD na neb o'i flaen.
31 Doedd dilyn yr eilunod wnaeth Jeroboam fab Nebat eu codi ddim digon ganddo. Priododd Jesebel (merch Ethbaal brenin y Sidoniaid) ac yna dechrau plygu ac addoli'r Baal!
32 Adeiladodd deml i Baal yn Samaria a rhoi allor i Baal ynddi.
33 Cododd bolyn i Ashera hefyd. Roedd Ahab wedi gwneud mwy i wylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, nag unrhyw frenin o'i flaen.
34 Yn y cyfnod pan oedd Ahab yn frenin, dyma Chiel o Bethel yn ailadeiladu Jericho. Aberthodd ei fab hynaf, Abiram, wrth osod sylfeini'r ddinas, a'i fab ifancaf, Segwf, pan oedd wedi gorffen y gwaith ac yn gosod y giatiau yn eu lle. Dyma'n union roedd yr ARGLWYDD wedi'i ddweud fyddai'n digwydd, drwy Josua fab Nwn.Croes
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity