1 BRENHINOEDD 20
Syria yn ymosod ar Israel
1 Dyma Ben-hadad, brenin Syria, yn casglu ei fyddin i gyd. Roedd yna dri deg dau o frenhinoedd gydag e, gyda'u cerbydau a'u ceffylau. Aeth i warchae ar Samaria ac ymosod arni.
2 A dyma fe'n anfon neges i'r ddinas at y Brenin Ahab.
3 “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Fi piau dy arian di a dy aur di. Fi piau dy hoff wragedd di a dy blant di hefyd.’”
4 A dyma frenin Israel yn ateb, “Iawn, fy mrenin, fy meistr! Ti sydd biau fi a phopeth sydd gen i.”
5 Yna dyma'r negeswyr yn dod yn ôl ato eto a dweud, “Dyma mae Ben-hadad yn ei ddweud: ‘Dw i eisoes wedi dweud wrthot ti am roi dy arian, dy aur, dy wragedd a dy blant i mi.
6 Tua'r adeg yma yfory dw i'n mynd i anfon fy ngweision atat ti, a byddan nhw'n chwilio drwy dy balas di a thai dy swyddogion, ac yn cymryd popeth gwerthfawr oddi arnat ti.’”
7 Dyma frenin Israel yn galw holl arweinwyr y wlad at ei gilydd, a dweud, “Gwrandwch, mae'r dyn yma am greu helynt go iawn. Pan wnaeth e hawlio'r gwragedd a'r plant a'r holl arian a'r aur sydd gen i, wnes i ddim ei wrthod e.”
8 A dyma'r arweinwyr a'r bobl yn dweud wrtho, “Paid gwrando arno! Paid cytuno.”
9 Felly dyma Ahab yn dweud wrth negeswyr Ben-hadad, “Dwedwch wrth fy meistr, y brenin, ‘Dw i'n fodlon gwneud popeth wnest ti ofyn y tro cyntaf, ond alla i ddim cytuno i hyn.’” A dyma'r negeswyr yn mynd â'r ateb yn ôl i'w meistr.
10 Yna dyma Ben-hadad yn anfon neges arall, “Boed i'r duwiau fy melltithio i, os bydd unrhyw beth ar ôl o Samaria ond llond dwrn o lwch i bob un o'r dynion sy'n fy nilyn i ei godi.”
11 Ateb brenin Israel oedd, “Paid brolio wrth godi dy arfau; dim ond pan fyddi'n eu rhoi i lawr!”
12 Roedd Ben-hadad yn diota yn ei babell gyda'r brenhinoedd eraill pan gafodd yr ateb yma. A dyma fe'n dweud wrth ei filwyr, “Paratowch i ymosod!” A dyma nhw'n paratoi i ymosod ar y ddinas.
Yr ARGLWYDD yn achub Israel
13 Yr un pryd, dyma broffwyd yn mynd i weld Ahab, brenin Israel, a dweud wrtho, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Wyt ti'n gweld y fyddin anferth yna? Heddiw dw i'n mynd i'w rhoi nhw'n dy law di, a byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
14 A dyma Ahab yn gofyn, “Sut?” “Drwy swyddogion ifanc y taleithiau,” meddai'r proffwyd. Yna dyma Ahab yn gofyn, “Pwy fydd yn ymosod gyntaf?” “Ti,” meddai'r proffwyd.
15 Felly dyma Ahab yn casglu swyddogion ifainc y taleithiau at ei gilydd, ac roedd yna ddau gant tri deg dau ohonyn nhw. Wedyn dyma fe'n casglu byddin Israel, ac roedd yna saith mil ohonyn nhw.
16-17 Dyma nhw'n mynd allan tua hanner dydd, gyda swyddogion ifanc y taleithiau yn eu harwain. Roedd Ben-hadad a'r tri deg dau brenin oedd gydag e wedi yfed eu hunain yn chwil yn eu pebyll. A dyma'i sgowtiaid yn dod a dweud wrtho, “Mae yna filwyr yn dod allan o Samaria.”
18 Dyma Ben-hadad yn dweud: “Daliwch nhw'n fyw – sdim ots os ydyn nhw am wneud heddwch neu am ymladd.”
19 Swyddogion ifanc y taleithiau oedd yn arwain byddin Israel allan.
20 A dyma nhw'n taro milwyr y gelyn nes i'r Syriaid orfod ffoi. Aeth Israel er eu holau, ond llwyddodd Ben-hadad i ddianc ar gefn ceffyl gyda'i farchogion.
21 A dyna sut wnaeth brenin Israel orchfygu holl gerbydau a marchogion y gelyn. Cafodd y Syriaid eu trechu'n llwyr.
22 Yna dyma'r proffwyd yn mynd at frenin Israel a dweud wrtho, “Rhaid i ti gryfhau'r amddiffynfeydd, a meddwl yn ofalus beth i'w wneud. Achos yn y gwanwyn bydd brenin Syria yn ymosod eto.”
Syria yn ymosod ar Israel eto
23 Dyma swyddogion brenin Syria yn dweud wrtho, “Duw'r bryniau ydy eu duw nhw, a dyna pam wnaethon nhw'n curo ni. Os gwnawn ni eu hymladd nhw ar y gwastadedd byddwn ni'n siŵr o ennill.
24 Dylen ni gael capteniaid milwrol i arwain y fyddin yn lle'r brenhinoedd yma.
25 Yna casglu byddin at ei gilydd yn lle'r un wnest ti ei cholli, gyda'r un faint o geffylau a cherbydau. Os gwnawn ni i ymladd gyda nhw ar y gwastadedd, byddwn ni'n siŵr o ennill.” A dyma Ben-hadad yn gwneud beth roedden nhw'n ei awgrymu.
26 Felly yn y gwanwyn dyma Ben-hadad yn casglu byddin Syria at ei gilydd, a mynd i ymladd yn erbyn Israel yn Affec.
27 Roedd byddin Israel eisoes wedi'i galw allan ac wedi derbyn eu cyflenwadau, a dyma nhw'n mynd i ryfel. Ond roedd byddin Israel, gyferbyn â'r Syriaid, yn edrych fel dwy ddiadell fach o eifr o'i chymharu â byddin Syria oedd yn llenwi'r wlad!
28 Yna dyma'r proffwyd yn mynd i weld brenin Israel, a dweud wrtho: “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am fod Syria wedi dweud mai Duw'r bryniau ydy'r ARGLWYDD, dim Duw'r dyffrynnoedd, dw i'n mynd i roi'r fyddin anferth yma yn dy law di. Byddi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
29 Bu'r ddwy fyddin yn gwersylla gyferbyn â'i gilydd am saith diwrnod. Yna ar y seithfed diwrnod dyma'r ymladd yn dechrau. Lladdodd milwyr Israel gan mil o wŷr traed Syria mewn un diwrnod!
30 Dyma'r gweddill yn ffoi i Affec, ond syrthiodd wal y ddinas a lladd dau ddeg saith mil ohonyn nhw. Roedd Ben-hadad wedi dianc i'r ddinas, ac yn cuddio mewn ystafell fewnol yno.
31 A dyma'i swyddogion yn dweud wrtho, “Gwranda, dŷn ni wedi clywed fod brenhinoedd Israel yn garedig. Gad i ni wisgo sachliain, rhoi rhaffau am ein gyddfau a mynd allan at frenin Israel. Falle y bydd e'n arbed dy fywyd di.”
32 Felly dyma nhw'n gwisgo sachliain a rhoi rhaffau am eu gyddfau a mynd allan at frenin Israel, a dweud, “Mae dy was, Ben-hadad yn gofyn, ‘Plîs, gad i mi fyw.’”
“Beth? Ydy e'n dal yn fyw?” meddai brenin Israel, “Mae e fel brawd
Ref i mi.”
33 Roedd y dynion yn cymryd hyn fel arwydd da, a dyma nhw'n ymateb yn syth, “Ie, dy frawd di ydy Ben-hadad.” Felly dyma Ahab yn dweud, “Ewch i'w nôl e.” A phan ddaeth Ben-hadad dyma Ahab yn ei dderbyn i'w gerbyd.
34 Dyma Ben-hadad yn dweud wrtho, “Dw i am roi'r trefi wnaeth fy nhad eu cymryd oddi ar dy dad di yn ôl i ti. A cei di sefydlu canolfannau marchnata yn Damascus, fel roedd fy nhad i wedi gwneud yn Samaria.” A dyma Ahab yn dweud, “Gwna i dy ollwng di'n rhydd ar yr amodau yma.” Felly dyma'r ddau'n gwneud cytundeb heddwch, a dyma Ben-hadad yn cael mynd yn rhydd.
Proffwyd yn ceryddu Ahab
35 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth un oedd yn aelod o urdd o broffwydi i ddweud wrth un arall, “Taro fi!” Ond dyma'r llall yn gwrthod.
36 Felly meddai wrtho, “Am i ti wrthod gwrando ar yr ARGLWYDD, pan fyddi di'n fy ngadael i bydd llew yn ymosod arnat ti.” Ac wrth iddo fynd oddi wrtho dyma lew yn ymosod arno a'i ladd.
37 Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth ddyn arall, “Taro fi!” A dyma hwnnw'n taro'r proffwyd yn galed a'i anafu. Ref
38 Yna aeth y proffwyd i ddisgwyl ar ochr y ffordd am y brenin. Roedd wedi cuddio ei wyneb rhag iddo gael ei nabod.
39 Pan ddaeth y brenin heibio, dyma'r proffwyd yn galw arno. “Rôn i yng nghanol y frwydr a dyma rywun yn rhoi carcharor i mi ofalu amdano. ‘Gwylia hwn!’ meddai wrtho i, ‘Os bydd e'n dianc byddi di'n talu â'th fywyd, neu dalu dirwy o dri deg pum cilogram o arian.’
40 Ond tra oedd dy was yn brysur yn gwneud hyn a'r llall, dyma'r carcharor yn diflannu.” Dyma'r brenin yn ei ateb, “Ti wedi dweud dy hun beth ydy'r gosb, ac felly bydd hi.”
41 Ar unwaith dyma'r proffwyd yn dangos ei wyneb, a dyma frenin Israel yn sylweddoli ei fod yn un o'r proffwydi.
42 Yna dyma'r proffwyd yn dweud wrth y brenin, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am i ti ollwng yn rhydd y dyn roeddwn i wedi dweud oedd i farw, byddi di'n marw yn ei le, a bydd dy bobl di yn dioddef yn lle ei bobl e.’”
43 Aeth brenin Israel yn ôl adre i Samaria yn sarrug a blin.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity