1 BRENHINOEDD 4
Swyddogion Solomon
1 Roedd Solomon yn frenin ar Israel gyfan.
2 Dyma'i swyddogion:
- Asareia fab Sadoc oedd yr offeiriad.
- 3 Elichoreff ac Achïa, meibion Shisha, oedd ei ysgrifenyddion.
- Jehosaffat fab Achilwd oedd y cofnodydd swyddogol.
- 4 Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth y fyddin,
- a Sadoc ac Abiathar yn offeiriaid.
- 5 Asareia fab Nathan oedd pennaeth swyddogion y rhanbarthau;
- yna Sabwd fab Nathan yn offeiriad ac yn gynghorwr y brenin.
- 6 Achishar oedd yn rhedeg y palas a gofalu am holl eiddo'r brenin,
- ac Adoniram fab Afda oedd swyddog y gweithlu gorfodol.
7 Yna roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn.
8 Dyma'u henwau nhw:
- Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
- 9 Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
- 10 Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
- 11 Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
- 12 Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Iocmeam;
- 13 Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;
- 14 Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;
- 15 Achimaäts: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
- 16 Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;
- 17 Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;
- 18 Shimei fab Ela: yn Benjamin;
- 19 a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.
20 Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed ac roedden nhw'n hapus.
Llwyddiant Solomon
21 Roedd Solomon yn llywodraethu ar yr holl ardaloedd o afon Ewffrates i wlad y Philistiaid ac i lawr at y ffin gyda'r Aifft. Roedd y teyrnasoedd yma i gyd yn talu trethi iddo, ac yn gwasanaethu Solomon ar hyd ei oes.
22 Dyma beth oedd ei angen ar lys Solomon bob dydd:
- – tri deg mesur o'r blawd gorau
- – chwe deg mesur o flawd cyffredin,
- 23 – deg o loi wedi'u pesgi,
- – dau ddeg o loi oedd allan ar y borfa,
- – cant o ddefaid.
Roedd hyn heb sôn am y ceirw, gaseliaid, iyrchod a gwahanol fathau o ffowls.
24 Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo a'r gwledydd o'i gwmpas.
25 Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba Ref yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys.
26 Roedd gan Solomon hefyd stablau i ddal 40,000 o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo 12,000 o farchogion.
27 Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim.
28 Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.
Doethineb Solomon
29 Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr.
30 Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft.
31 Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nag Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd.
32 Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon.
33 Roedd yn gallu siarad am blanhigion, o'r coed cedrwydd mawr yn Libanus i'r isop sy'n tyfu ar waliau. Roedd hefyd yn gallu sôn am anifeiliaid, adar, ymlusgiaid a phryfed a physgod.
34 Roedd brenhinoedd y gwledydd i gyd yn anfon pobl at Solomon i wrando ar ei ddoethineb.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity