|
|
(2 Cronicl 2:1-16)
1 Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes. 2 Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato, 3 “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro'i elynion i gyd. 4 Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni. 5 Felly dw i am adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth fy nhad Dafydd, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’ 6 Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.” 7 Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.” 8 A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a choed pinwydd. 9 Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag rwyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a chaiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.” 10 Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau. 11 Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a chant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn. 12 Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity