|
|
(2 Cronicl 3:8-14)
15 Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd. 16 Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi'i godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd. 17 Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd. 18 Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi'i gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg. 19 Roedd cell gysegredig y tu mewn i'r deml ar gyfer Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. 20 Roedd y gell yn naw metr o hyd, naw metr o led a naw metr o uchder. Cafodd ei gorchuddio'n llwyr gydag aur pur. A'r allor o gedrwydd yr un fath. 21 Roedd tu mewn y deml i gyd wedi'i orchuddio gydag aur pur. Roedd cadwyni aur o flaen y gell gysegredig fewnol, ac roedd y gell ei hun wedi'i gorchuddio ag aur hefyd. 22 Roedd aur pur yn gorchuddio pob twll a chornel o'r deml, gan gynnwys yr allor oedd yn y gell fewnol gysegredig. 23 Yn y cysegr mewnol dyma fe'n gwneud dau gerwb o goed olewydd. Roedden nhw'n bedwar metr a hanner o daldra. 24 Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall. 25 Roedd y ddau gerwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath. 26 Roedd y ddau yn bedwar metr a hanner o daldra. 27 Dyma Solomon yn rhoi'r ddau gerwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'u hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau gerwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol. 28 Roedd y ddau gerwb wedi'u gorchuddio gydag aur. 29 Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi'u cerfio drostyn nhw gyda lluniau o gerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored. 30 Roedd y llawr wedi'i orchuddio gydag aur (yn y brif neuadd a'r cysegr mewnol). 31 Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog. 32 Roedd y ddau ddrws gyda cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio. 33 Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi'u gwneud o goed olewydd. 34 Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi'u gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd. 35 Roedd cerwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi'u cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi'i orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio. 36 Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi'i hadeiladu gyda thair rhes o gerrig wedi'u naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd. 37 Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin. 38 Cafodd pob manylyn o'r gwaith ei orffen ym mis Bwl, sef yr wythfed mis, Ref o flwyddyn un deg un o'i deyrnasiad. Felly, roedd y deml wedi cymryd saith mlynedd i'w hadeiladu.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity