1 SAMUEL 11
Saul yn trechu byddin Ammon
1 Yna dyma Nachash, brenin Ammon, yn arwain ei fyddin i ymosod ar dref Jabesh yn Gilead. Ref Dyma ddynion Jabesh yn dweud wrth Nachash, “Gwna gytundeb â ni, a down ni'n weision i ti.”
2 Atebodd Nachash, “Iawn, gwna i gytundeb â chi, ond bydd rhaid tynnu allan llygad dde pob un ohonoch chi. Fel yna bydda i'n codi cywilydd ar Israel gyfan.”
3 Meddai arweinwyr Jabesh wrtho, “Gad lonydd i ni am wythnos, i ni gael anfon negeswyr i bobman yn Israel. Os fydd neb yn barod i ddod i'n hachub ni, byddwn yn ildio i ti.”
4 Cyrhaeddodd y negeswyr Gibea (lle roedd Saul yn byw) a dweud beth oedd yn digwydd; a dyma'r bobl i gyd yn dechrau crio'n uchel.
5 Ar y pryd roedd Saul ar ei ffordd adre o'r caeau gyda'i ychen. “Be sy'n bod?” meddai. “Pam mae pawb yn crio?” A dyma nhw'n dweud wrtho am neges pobl Jabesh.
6 Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno'n rymus. Roedd wedi gwylltio'n lân.
7 Dyma fe'n lladd pâr o ychen a'u torri nhw'n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda'r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i gyhoeddi fel hyn: “Pwy bynnag sy'n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i'w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw'n dod allan fel un dyn.
8 Pan wnaeth Saul eu cyfri nhw yn Besec, roedd yna 300,000 o ddynion o Israel a 30,000 o Jwda.
9 A dyma nhw'n dweud wrth y negeswyr oedd wedi dod o Jabesh yn Gilead, “Dwedwch wrth bobl Jabesh, ‘Erbyn canol dydd fory, byddwch wedi'ch achub.’” Aeth y negeswyr a dweud hynny wrth bobl Jabesh, ac roedden nhw wrth eu boddau.
10 Yna dyma nhw'n dweud wrth Nachash, “Yfory byddwn ni'n dod allan atoch chi, a cewch wneud fel y mynnoch hefo ni.”
11 Y noson honno Ref dyma Saul yn rhannu'r dynion yn dair mintai. Dyma nhw'n mynd i mewn i wersyll byddin Ammon cyn iddi wawrio, a buon nhw'n taro byddin Ammon tan ganol dydd. Roedd y rhai oedd yn dal yn fyw ar chwâl, pob un ohonyn nhw ar ei ben ei hun.
12 Yna dyma'r bobl yn gofyn i Samuel, “Ble mae'r rhai oedd yn dweud, ‘Pam ddylai Saul fod yn frenin arnon ni?’ Dewch â nhw yma. Maen nhw'n haeddu marw!”
13 Ond dyma Saul yn dweud, “Does neb i gael ei ladd heddiw. Mae'n ddiwrnod pan mae'r ARGLWYDD wedi rhoi buddugoliaeth i Israel!”
14 “Dewch,” meddai Samuel, “gadewch i ni fynd i Gilgal, a sefydlu'r frenhiniaeth yno eto.”
15 Felly dyma'r bobl i gyd yn mynd i Gilgal a gwneud Saul yn frenin yno o flaen yr ARGLWYDD. Yna dyma nhw'n cyflwyno offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd Saul a phobl Israel i gyd yn dathlu'n llawen yno.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity