1 SAMUEL 14
Cynllun mentrus Jonathan
1 Un diwrnod dyma Jonathan, mab Saul, yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Tyrd, gad i ni groesi drosodd i wersyll y Philistiaid.” Ond ddwedodd e ddim am y peth wrth ei dad.
2 Roedd Saul yn eistedd o dan y goeden pomgranadau sydd wrth ymyl Migron ar gyrion Gibea, a tua chwe chant o ddynion gydag e.
3 Achïa oedd yn cario'r effod. (Roedd Achïa yn fab i Achitwf, brawd Ichabod a mab Phineas fab Eli oedd yn arfer bod yn offeiriad yn Seilo.) Doedd neb o'r fyddin yn gwybod fod Jonathan wedi mynd.
4 Roedd clogwyni uchel bob ochr i'r bwlch roedd Jonathan eisiau ei groesi i fynd at wersyll y Philistiaid. Enwau'r clogwyni oedd Botsets a Senne.
5 Roedd un i'r gogledd ar ochr Michmas, a'r llall i'r de ar ochr Geba.
6 Dyma Jonathan yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Tyrd, gad i ni fynd draw i wersyll y paganiaid acw. Falle bydd yr ARGLWYDD yn ein helpu ni. Mae'r un mor hawdd iddo fe achub hefo criw bach ag ydy hi gyda byddin fawr.”
7 A dyma'i was yn ateb, “Gwna beth bynnag wyt ti eisiau. Dos amdani. Dw i gyda ti bob cam.”
8 Meddai Jonathan, “Dyma be wnawn ni. Awn ni drosodd at y dynion a gadael iddyn nhw ein gweld ni.
9 Os dwedan nhw ‘Arhoswch yna nes i ni ddod atoch chi,’ gwnawn ni aros lle rydyn ni.
10 Ond os dwedan nhw, ‘Dewch i fyny yma,’ awn ni atyn nhw. Bydd hynny'n arwydd fod yr ARGLWYDD yn eu rhoi nhw'n ein gafael ni.”
11 Felly dyma'r ddau'n mynd, a dangos eu hunain i fyddin y Philistiaid. A dyma'r rheiny yn dweud, “Edrychwch! Mae'r Hebreaid yn dod allan o'r tyllau lle maen nhw wedi bod yn cuddio!”
12 Gwaeddodd y milwyr ar Jonathan a'i gludwr arfau, “Dewch i fyny yma i ni ddysgu gwers i chi!” A dyma Jonathan yn dweud wrth ei was, “Dilyn fi, achos mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i Israel.”
13 Yna dringodd Jonathan i fyny ar ei bedwar, a'r gwas oedd yn cario'i arfau ar ei ôl. Dyma Jonathan yn taro gwylwyr y Philistiaid i lawr, ac yna roedd ei was yn ei ddilyn ac yn eu lladd nhw.
14 Yn yr ymosodiad cyntaf yma, lladdodd Jonathan a'i was tua dau ddeg o ddynion mewn llai na chan llath.
15 Yna roedd yna ddaeargryn, a dyma banig llwyr yn dod dros fyddin y Philistiaid. Roedden nhw'n panicio yn y gwersyll ac allan ar y maes – y fintai i gyd a'r grwpiau oedd wedi mynd allan i ymosod ar Israel. Duw oedd wedi achosi'r panig yma.
16 Roedd gan Saul wylwyr yn Gibea yn Benjamin, a dyma nhw'n gweld milwyr y Philistiaid yn dyrfa yn diflannu i bob cyfeiriad.
17 Dyma Saul yn gorchymyn galw'i filwyr at ei gilydd i weld pwy oedd ar goll, a dyma nhw'n ffeindio fod Jonathan a'r gwas oedd yn cario'i arfau ddim yno.
18 Yna dyma Saul yn dweud wrth Achïa'r offeiriad, “Tyrd â'r Arch yma.” (Roedd Arch Duw allan gyda byddin Israel ar y pryd.)
19 Ond tra oedd Saul yn siarad â'r offeiriad, roedd y panig yng ngwersyll y Philistiaid yn mynd o ddrwg i waeth. Felly dyma Saul yn dweud wrtho, “Anghofia hi.”
20 A dyma Saul yn galw'i fyddin at ei gilydd a mynd allan i'r frwydr.
Roedd byddin y Philistiaid mewn anhrefn llwyr. Dyna lle roedden nhw'n lladd ei gilydd!
21 Roedd yna Hebreaid oedd wedi ymuno â byddin y Philistiaid cyn hyn, a dyma nhw'n troi i ymladd ar ochr yr Israeliaid gyda Saul a Jonathan.
22 Wedyn, pan glywodd yr Israeliaid oedd wedi bod yn cuddio ym mryniau Effraim fod y Philistiaid yn ffoi, dyma nhw hefyd yn mynd ar eu holau.
23 Roedd y brwydro wedi lledu tu draw i Beth-afen.
Felly yr ARGLWYDD wnaeth achub Israel y diwrnod hwnnw.
Saul yn tyngu llw ffôl
24 Roedd byddin Israel wedi llwyr ymlâdd y diwrnod hwnnw, am fod Saul wedi gwneud iddyn nhw dyngu llw a dweud, “Melltith ar unrhyw un fydd yn bwyta unrhyw beth cyn iddi nosi – cyn i mi ddial ar fy ngelynion.” Felly doedd neb wedi bwyta o gwbl.
25-26 Daeth y fyddin at goedwig, ac roedd diliau mêl ar lawr ym mhobman. Er eu bod nhw'n gweld y mêl yn diferu, wnaeth neb gymryd dim am fod arnyn nhw ofn y felltith.
27 Ond doedd Jonathan ddim wedi clywed ei dad yn gwneud i bawb dyngu'r llw. Felly dyma fe'n estyn blaen ei ffon i'r mêl, ac yna ei rhoi yn ei geg. Roedd wedi'i adfywio'n llwyr. Ref
28 Yna dyma un o'r dynion yn dweud wrtho, “Gwnaeth dy dad i'r milwyr dyngu llw, a dweud, ‘Melltith ar unrhyw un sy'n bwyta unrhyw fwyd heddiw.’ Dyna pam mae'r dynion i gyd yn teimlo mor wan.”
29 A dyma Jonathan yn ateb, “Mae dad wedi gwneud pethau'n anodd i bawb. Edrychwch gymaint gwell dw i'n teimlo ar ôl blasu'r mymryn bach yna o fêl!
30 Petai'r dynion wedi cael bwyta'r bwyd adawodd y gelynion heddiw, bydden ni wedi lladd llawer mwy o'r Philistiaid!”
31 Y diwrnod hwnnw llwyddodd y fyddin i daro'r Philistiaid yr holl ffordd o Michmas i Aialon, Ref ond roedden nhw wedi blino'n lân.
32 Felly dyma nhw'n rhuthro ar yr ysbail a chymryd defaid, gwartheg a lloi. Yna eu lladd nhw yn y fan a'r lle, a bwyta'r cig, y gwaed a'r cwbl. Ref
33 Dwedodd rhywun wrth Saul fod y bobl wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta gwaed. A dyma Saul yn dweud, “Dych chi wedi bod yn anffyddlon. Rholiwch garreg fawr yma ata i.
34 Yna ewch at y dynion a dweud wrthyn nhw fod rhaid i bawb ddod â'i fustach a'i ddafad i'r fan yma, i'w ladd cyn ei fwyta. Dwedwch wrthyn nhw am beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD drwy fwyta'r gwaed.” Felly'r noson honno, dyma pawb yn mynd â'i anifail yno i'w ladd.
35 A dyna sut wnaeth Saul godi allor i'r ARGLWYDD am y tro cyntaf.
36 Dyma Saul yn dweud, “Dewch i ni fynd i lawr ar ôl y Philistiaid yn y nos, a'u taro nhw nes bydd hi'n fore. Fydd yna run ohonyn nhw ar ôl!” Dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag ti'n feddwl sydd orau.” Ond dyma'r offeiriad yn dweud, “Gadewch i ni ofyn i Dduw gyntaf.”
37 Felly dyma Saul yn gofyn i Dduw, “Ddylwn i fynd ar ôl y Philistiaid? Wnei di adael i Israel ennill y frwydr?” Ond gafodd e ddim ateb y diwrnod hwnnw.
38 Felly dyma Saul yn galw arweinwyr y fyddin ato a dweud, “Rhaid darganfod pwy sydd wedi pechu yma heddiw.
39 Mor sicr â bod yr ARGLWYDD, achubwr Israel, yn fyw – hyd yn oed os mai Jonathan, fy mab i fy hun, ydy e – bydd rhaid iddo farw!” Ond wnaeth neb o'r milwyr ddweud gair.
40 Felly dyma fe'n dweud wrth fyddin Israel, “Safwch chi i gyd yr ochr yna, a gwna i a fy mab Jonathan sefyll gyferbyn â chi.” A dyma'r dynion yn ateb, “Beth bynnag ti'n feddwl sydd orau.”
41 Yna dyma Saul yn gweddïo, “O ARGLWYDD, Duw Israel. Os mai fi neu Jonathan sydd wedi pechu, rho Wrim. Os mai un o fyddin Israel sydd wedi pechu, rho Thwmim.” Ref A'r canlyniad oedd i Saul a Jonathan gael eu dangos yn euog, a bod y fyddin ddim ar fai.
42 A dyma Saul yn dweud, “Tynnwch garreg i ddewis rhwng Jonathan a fi.” A chafodd Jonathan ei ddangos yn euog.
43 Yna yma Saul yn gofyn i Jonathan, “Dwed wrtho i be wnest ti.” A dyma Jonathan yn ateb, “Blasu mymryn o fêl ar flaen fy ffon. Dyma fi, oes rhaid i mi farw?”
44 A dyma Saul yn cyhoeddi, “Ar fy llw o flaen Duw, rhaid i Jonathan farw neu bydd Duw'n ein cosbi ni'n waeth fyth.”
45 Ond dyma'r milwyr yn ateb, “Pam ddylai Jonathan farw? Mae e wedi ennill buddugoliaeth fawr i Israel heddiw. Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw ddylai dim byd ddigwydd iddo. Roedd e'n cydweithio gyda Duw heddiw.” Felly dyma'r milwyr yn achub Jonathan, a chafodd fyw.
46 Ar ôl hynny, rhoddodd Saul y gorau i fynd ar ôl y Philistiaid, a dyma'r rheiny'n mynd yn ôl i'w gwlad eu hunain.
Crynodeb o deyrnasiad Saul
47 Pan oedd Saul yn frenin ar Israel aeth i ryfel yn erbyn y gelynion oedd o'i gwmpas i gyd: Moab, yr Ammoniaid, Edom, brenhinoedd Soba yn Syria, a'r Philistiaid. Roedd e'n ennill bob tro.
48 Roedd e'n arwr. Trawodd yr Amaleciaid ac achub Israel o afael pawb oedd yn ymosod arnyn nhw.
49 Enwau Meibion Saul oedd Jonathan, Ishfi Ref a Malci-shwa. Roedd ganddo ddwy ferch hefyd, Merab, yr hynaf a Michal yr ifancaf.
50 Enw gwraig Saul oedd Achinoam (merch Achimaäts). Pennaeth ei fyddin oedd Abner fab Ner, cefnder Saul. (0v 51 Roedd Cish tad Saul, a Ner tad Abner yn feibion i Abiel).
52 Roedd yna ryfela ffyrnig yn erbyn y Philistiaid yr holl amser roedd Saul yn frenin. Felly pan fyddai Saul yn gweld unrhyw ddyn cryf a dewr, byddai'n ei gonscriptio i'w fyddin.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity