1 SAMUEL 16
Yr ARGLWYDD yn dewis Dafydd yn frenin
1 Dyma'r ARGLWYDD yn gofyn i Samuel, “Am faint wyt ti'n mynd i ddal i deimlo'n drist am Saul? Dw i wedi'i wrthod e fel brenin ar Israel. Llenwa gorn gydag olew olewydd a dos i Bethlehem at ddyn o'r enw Jesse. Dw i wedi dewis un o'i feibion e i fod yn frenin i mi.”
2 Atebodd Samuel, “Sut alla i wneud hynny? Os bydd Saul yn clywed am y peth bydd e'n fy lladd i!” “Dos â heffer gyda ti,” meddai'r ARGLWYDD, “a dweud, ‘Dw i'n mynd i aberthu i'r ARGLWYDD.’
3 Gwahodd Jesse i'r aberth, a gwna i ddangos i ti pa un o'i feibion i'w eneinio â'r olew.”
4 Gwnaeth Samuel fel roedd Duw wedi dweud, a mynd i Fethlehem. Ond roedd arweinwyr y dre yn nerfus iawn pan welon nhw e. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Wyt ti'n dod yn heddychlon?”
5 “Ydw”, meddai Samuel, “yn heddychlon. Dw i'n dod i aberthu i'r ARGLWYDD. Ewch drwy'r ddefod o buro eich hunain, a dewch gyda mi i'r aberth.” Yna dyma fe'n arwain Jesse a'i feibion drwy'r ddefod o gysegru eu hunain, a'u gwahodd nhw i'r aberth.
6 Pan gyrhaeddon nhw, sylwodd Samuel ar Eliab a meddwl, “Dw i'n siŵr mai hwnna ydy'r un mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis yn frenin.”
7 Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Paid cymryd sylw o pa mor dal a golygus ydy e. Dw i ddim wedi'i ddewis e. Dydy Duw ddim yn edrych ar bethau yr un fath ag mae pobl. Mae pobl yn edrych ar y tu allan, ond mae'r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn.”
8 Yna dyma Jesse yn galw Abinadab, i Samuel gael ei weld e. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.”
9 Felly dyma Jesse yn dod â Shamma ato. Ond dyma Samuel yn dweud, “Dim hwn mae'r ARGLWYDD wedi'i ddewis chwaith.”
10 Daeth Jesse â saith o'i feibion at Samuel yn eu tro. Ond dyma Samuel yn dweud wrtho, “Dydy'r ARGLWYDD ddim wedi dewis run o'r rhain.”
11 Yna dyma Samuel yn holi Jesse, “Ai dyma dy fechgyn di i gyd?” “Na,” meddai Jesse, “Mae'r lleiaf ar ôl. Mae e'n gofalu am y defaid.” “Anfon rhywun i'w nôl e,” meddai Samuel. “Wnawn ni ddim byd arall nes bydd e wedi cyrraedd.”
12 Felly dyma Jesse'n anfon amdano. Roedd yn fachgen iach yr olwg gyda llygaid hardd – bachgen golygus iawn. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Tyrd! Hwn ydy e! Eneinia fe â'r olew.”Croes
13 Felly dyma Samuel yn tywallt yr olew ar ben Dafydd o flaen ei frodyr i gyd. Daeth Ysbryd yr ARGLWYDD yn rymus ar Dafydd o'r diwrnod hwnnw ymlaen.
Yna dyma Samuel yn mynd yn ôl adre i Rama.
Dafydd yn canu'r delyn i Saul
14 Roedd Ysbryd yr ARGLWYDD wedi gadael Saul. A dyma'r ARGLWYDD yn anfon ysbryd drwg i'w boeni.
15 Roedd ei swyddogion yn dweud wrtho, “Mae'n amlwg fod Duw wedi anfon ysbryd drwg i dy boeni di.
16 Syr, beth am i ni, dy weision, fynd i chwilio am rywun sy'n canu'r delyn Ref yn dda? Wedyn, pan fydd Duw yn anfon yr ysbryd drwg arnat ti, bydd e'n canu'r delyn ac yn gwneud i ti deimlo'n well.”
17 Felly dyma Saul yn ateb, “Iawn, ewch i ffeindio rhywun sy'n canu'r delyn yn dda, a dewch ag e yma.”
18 A dyma un o'r dynion ifanc yn dweud, “Dw i'n gwybod am fab i Jesse o Fethlehem sy'n dda ar y delyn. Mae e'n filwr dewr, yn siaradwr da, mae'n fachgen golygus ac mae'r ARGLWYDD gydag e.”
19 Felly dyma Saul yn anfon neges at Jesse, “Anfon dy fab Dafydd ata i, yr un sydd gyda'r defaid.”
20 A dyma Jesse'n llwytho asyn gyda bara, potel groen yn llawn o win, a gafr ifanc, a'u hanfon gyda'i fab Dafydd at Saul.
21 Aeth Dafydd i weithio i Saul. Roedd Saul yn ei hoffi'n fawr, a rhoddodd y cyfrifoldeb o gario'i arfau iddo.
22 Anfonodd Saul neges at Jesse yn gofyn, “Plîs gad i Dafydd aros yma i fod yn was i mi. Dw i'n hapus iawn gydag e.”
23 Felly, pan fyddai Duw yn anfon ysbryd drwg ar Saul, byddai Dafydd yn nôl ei delyn a'i chanu. Byddai hynny'n tawelu Saul a gwneud iddo deimlo'n well; a byddai'r ysbryd drwg yn gadael llonydd iddo.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity