1 SAMUEL 25
Marwolaeth Samuel
1 Dyma Samuel yn marw, a daeth pobl Israel i gyd at ei gilydd i alaru amdano. Cafodd ei gladdu ger ei gartref yn Rama.
Dafydd yn priodi Abigail
Aeth Dafydd i lawr i anialwch Maon.
Ref
2 Roedd yna ddyn cyfoethog iawn yn byw yn Maon, yn cadw tir wrth ymyl Carmel. Ref Roedd ganddo dair mil o ddefaid a mil o eifr. Roedd e yn Carmel yn cneifio'i ddefaid.
3 Nabal Ref oedd enw'r dyn, ac Abigail oedd enw ei wraig. Roedd hi'n ddynes ddoeth, hardd iawn, ond roedd e'n ddyn blin ac annifyr. Roedd e'n dod o deulu Caleb.
4 Pan oedd Dafydd yn yr anialwch clywodd fod Nabal yn cneifio yn Carmel.
5 Dyma fe'n anfon deg o'i weision ifanc ato. Meddai wrthyn nhw, “Ewch i weld Nabal yn Carmel, a'i gyfarch e i mi.
6 Dwedwch wrtho, ‘Heddwch a llwyddiant i ti a dy deulu! Gobeithio y cei di flwyddyn dda!
7 Rôn i'n clywed dy fod yn cneifio. Pan oedd dy fugeiliaid di gyda ni yn Carmel, wnaethon ni ddim tarfu arnyn nhw na dwyn dim.
8 Gofyn di i dy weision; gallan nhw ddweud wrthot ti mai felly roedd hi. Felly, wnei di fod yn garedig at fy ngweision i? Maen nhw wedi dod i dy weld ar ddydd gŵyl. Oes gen ti rywbeth i'w sbario i'w roi i dy weision ac i dy was Dafydd?’”
9 Felly dyma'r gweision ifanc yn mynd ac yn cyfarch Nabal ar ran Dafydd, yn union fel roedd e wedi dweud wrthyn nhw. Dyma nhw'n disgwyl
10 iddo ateb. Yna meddai Nabal. “Dafydd? Pwy mae e'n feddwl ydy e? Mab Jesse? Mae yna gymaint o weision yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth eu meistri y dyddiau yma!
11 Pam ddylwn i roi fy mara a'm dŵr a'm cig, sydd wedi'i baratoi i'r cneifwyr, i ryw griw o ddynion dw i'n gwybod dim byd amdanyn nhw?”
12 Felly dyma weision Dafydd yn mynd yn ôl, a dweud y cwbl wrtho. Pan glywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd,
13 dyma fe'n gorchymyn i'w ddynion, “Pawb i wisgo'i gleddyf!” Ac wedi iddyn nhw i gyd wneud hynny, aeth tua pedwar cant ohonyn nhw gyda Dafydd, gan adael dau gant ar ôl gyda'r offer.
14 Yn y cyfamser, roedd un o weision Nabal wedi dweud wrth Abigail, “Roedd Dafydd wedi anfon negeswyr o'r anialwch i gyfarch y meistr, ond dyma fe'n gweiddi a rhegi arnyn nhw.
15 Roedden nhw wedi bod yn dda iawn wrthon ni. Wnaethon nhw ddim tarfu arnon ni, na dwyn dim yr holl amser roedden ni gyda'n gilydd yng nghefn gwlad.
16 Roedden nhw fel wal o'n cwmpas ni yn ein hamddiffyn ni nos a dydd yr holl amser y buon ni'n gofalu am y defaid yn yr ardal honno.
17 Rhaid i ti feddwl am rywbeth. Mae'n amlwg fod trychineb yn aros y meistr a'i deulu i gyd. Ond mae e'n greadur mor gas, does dim pwynt i neb ddweud dim wrtho!”
18 Dyma Abigail yn brysio i gasglu bwyd a'i roi ar gefn asynnod: dau gan torth o fara, dwy botel groen o win, pum dafad wedi'u paratoi, pum sachaid o rawn wedi'i grasu, can swp o rhesins a dau gant o fariau ffigys.
19 Yna dyma hi'n dweud wrth ei gweision, “Ewch chi ar y blaen. Dof fi ar eich ôl.” Ond ddwedodd hi ddim am hyn wrth ei gŵr Nabal.
20 Roedd hi'n marchogaeth ar gefn asyn ac yn pasio heibo yng nghysgod y mynydd pan ddaeth Dafydd a'i ddynion i'w chyfarfod o'r cyfeiriad arall.
21 Roedd Dafydd wedi bod yn meddwl, “Roedd hi'n wastraff amser llwyr i mi warchod eiddo'r dyn yna yn yr anialwch! Gymerais i ddim oddi arno, a dyma fe nawr yn talu drwg am dda i mi.
22 Boed i Dduw ddial arna i os gwna i adael un o'i ddynion Ref e yn dal yn fyw erbyn y bore!”
23 Pan welodd Abigail Dafydd, dyma hi'n disgyn oddi ar ei hasyn ar frys. Dyma hi'n mynd ar ei gliniau ac ymgrymu ar lawr o'i flaen.
24 A dyma hi'n dweud, “Arna i mae'r bai, syr. Plîs gwranda ar dy forwyn, i mi gael egluro.
25 Paid cymryd sylw o beth mae'r dyn annifyr yna, Nabal, yn ei ddweud. Ffŵl ydy ystyr ei enw, a ffŵl ydy e. Wnes i, dy forwyn, ddim gweld y gweision wnest ti eu hanfon.
26 A nawr, syr, heb unrhyw amheuaeth, Ref mae'r ARGLWYDD am dy gadw di rhag tywallt gwaed a dial drosot ti dy hun. Boed i dy elynion, a phawb sydd am wneud drwg i ti, fod fel Nabal.
27 Dw i wedi dod â rhodd i ti, syr, i ti ei roi i'r dynion ifanc sy'n dy ganlyn.
28 Plîs maddau i mi am fusnesa. Mae Duw yn mynd i sicrhau dy linach di, syr, am byth. Brwydrau'r ARGLWYDD wyt ti'n eu hymladd. Dwyt ti erioed wedi gwneud dim byd o'i le!
29 Os bydd rhywun yn codi yn dy erbyn a cheisio dy ladd di, bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy gadw di'n saff. Ond bydd bywyd dy elyn yn cael ei daflu i ffwrdd fel carreg o ffon dafl!
30 Pan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud popeth mae e wedi addo i ti, a dy wneud di'n arweinydd Israel,
31 fydd dy gydwybod ddim yn dy boeni am dy fod wedi tywallt gwaed am ddim rheswm, a dial drosot ti dy hun. A phan fydd yr ARGLWYDD wedi gwneud hyn i gyd i'm meistr, cofia amdana i, dy forwyn.”
32 Dyma Dafydd yn ateb, “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel, am iddo dy anfon di ata i!
33 Diolch i ti am dy gyngor doeth, a bendith Duw arnat ti. Ti wedi fy rhwystro i, heddiw, rhag tywallt gwaed yn ddiangen a dial trosof fy hun.
34 Yn wir i ti, Ref oni bai dy fod ti wedi brysio i ddod ata i, fyddai gan Nabal ddim un dyn Ref ar ôl yn fyw erbyn y bore. Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi fy rhwystro i rhag gwneud drwg heddiw.”
35 Yna dyma Dafydd yn cymryd y pethau ddaeth hi â nhw iddo. “Dos adre'n dawel dy feddwl. Dw i wedi gwrando, a bydda i'n gwneud beth rwyt ti eisiau.”
36 Pan aeth Abigail yn ôl at Nabal roedd yn cynnal parti mawr fel petai'n frenin. Roedd yn cael amser da ac wedi meddwi'n gaib. Felly ddwedodd Abigail ddim byd o gwbl wrtho tan y bore.
37 Yna'r bore wedyn, ar ôl iddo sobri, dyma hi'n dweud yr hanes i gyd wrtho. Pan glywodd Nabal, dyma fe'n cael strôc. Roedd yn gorwedd wedi'i barlysu.
38 Rhyw ddeg diwrnod wedyn dyma Duw yn ei daro, a buodd farw.
39 Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi marw, dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi dial drosto i am y sarhad ges i gan Nabal. Mae wedi fy nghadw i rhag gwneud drwg ac wedi talu nôl i Nabal.” Yna dyma Dafydd yn anfon neges at Abigail yn gofyn iddi ei briodi e.
40 Aeth gweision Dafydd i Carmel at Abigail a dweud wrthi, “Mae Dafydd wedi'n hanfon ni i ofyn i ti ei briodi e.”
41 Cododd Abigail a plygu'n isel o'u blaenau nhw, a dweud, “Byddwn i, eich morwyn chi, yn hapus i fod yn gaethferch sy'n golchi traed gweision fy meistr.”
42 Yna dyma hi'n brysio ar gefn ei hasyn, a mynd â phum morwyn gyda hi. Aeth yn ôl gyda gweision Dafydd, a dod yn wraig iddo.
43 Roedd Dafydd wedi priodi Achinoam o Jesreel hefyd. Roedd y ddwy yn wragedd iddo.
44 (Roedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, oedd wedi bod yn wraig i Dafydd, i Paltiel fab Laish o dref Galîm.)
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity