1 SAMUEL 27
Dafydd yn byw gyda'r Philistiaid
1 Meddyliodd Dafydd, “Mae Saul yn mynd i'm lladd i un o'r dyddiau yma. Y peth gorau i mi fyddai dianc i wlad y Philistiaid. Wedyn bydd Saul yn rhoi'r gorau i geisio dod o hyd i mi yn ngwlad Israel. Bydda i o leia wedi llwyddo i ddianc o'i afael.”
2 Felly dyma fe a'i chwe chant o ddynion yn croesi drosodd i dref Gath at y Brenin Achish, mab Maoch.
3 Arhosodd Dafydd, a'i ddynion a'u teuluoedd, gydag Achish yn Gath. Roedd dwy wraig Dafydd gydag e hefyd, sef Achinoam o Jesreel ac Abigail o Carmel (gweddw Nabal).
4 Pan glywodd Saul fod Dafydd wedi dianc i Gath, dyma fe'n rhoi'r gorau i chwilio amdano.
5 Gofynnodd Dafydd i Achish, “Plîs ga i fynd i fyw yn un o'r trefi cefn gwlad? Ddylwn i, dy was, ddim bod yn byw yn ninas y brenin.”
6 Felly dyma Achish yn rhoi tref Siclag Ref i Dafydd y diwrnod hwnnw. (A dyna pam mae Siclag yn dal i berthyn i deyrnas Jwda hyd heddiw.)
7 Buodd Dafydd yn byw yng nghefn gwlad Philistia am flwyddyn a phedwar mis.
8 Byddai'n mynd allan gyda'i ddynion i ymosod ar y Geshwriaid, y Gisriaid a'r Amaleciaid. (Roedden nhw wedi bod yn byw yn yr ardal ers amser maith, o Shwr hyd at wlad yr Aifft.)
9 Pan fyddai Dafydd yn ymosod ar ardal byddai'n lladd pawb, yn ddynion a merched. Wedyn byddai'n cymryd y defaid, gwartheg, asynnod, camelod a'r dillad, a mynd â nhw i Achish.
10 Os byddai Achish yn gofyn, “Ble wnest ti ymosod y tro yma?”, byddai Dafydd yn ateb, “Negef Jwda,” neu “Negef Ierachmeël,” neu “Negef y Ceneaid.”
11 Doedd e byth yn gadael neb yn fyw, dynion na merched, rhag ofn iddyn nhw ddod i Gath a dweud beth roedd e'n wneud go iawn. A dyma fuodd Dafydd yn ei wneud yr holl amser roedd yn aros yng nghefn gwlad Philistia.
12 Roedd Achish yn trystio Dafydd ac yn meddwl, “Mae'n siŵr fod ei bobl yn Israel yn ei ffieiddio'n llwyr erbyn hyn! Bydd e'n was i mi am byth.”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity