|
|
(1 Cronicl 10:1-14)
1 Dyma'r Philistiaid yn dod ac ymladd yn erbyn Israel, ac roedd rhaid i filwyr Israel ffoi. Cafodd llawer iawn ohonyn nhw eu lladd ar fynydd Gilboa. 2 Yna dyma'r Philistiaid yn mynd ar ôl Saul a'i feibion, a dyma nhw'n llwyddo i ladd y meibion – Jonathan, Abinadab a Malci-shwa. 3 Roedd y frwydr yn ffyrnig o gwmpas Saul, a dyma'r bwasaethwyr yn ei daro a'i anafu'n ddifrifol. 4 Dyma Saul yn dweud wrth y gwas oedd yn cario'i arfau, “Cymer dy gleddyf a thrywana fi. Paid gadael i'r paganiaid yma ddod i'm cam-drin i a'm lladd i.” Ond roedd gan y gwas ofn gwneud hynny; felly dyma Saul yn cymryd ei gleddyf a syrthio arno. 5 Pan welodd y gwas fod Saul wedi marw, dyma fe hefyd yn syrthio ar ei gleddyf a marw gydag e. 6 Felly cafodd Saul a tri o'i feibion, y gwas oedd yn cario'i arfau a'i filwyr i gyd, eu lladd y diwrnod hwnnw. 7 Dyma bobl Israel oedd yr ochr draw i'r dyffryn, a'r tu draw i'r Iorddonen, yn clywed fod milwyr Israel wedi ffoi, a bod Saul a'i feibion wedi cael eu lladd. Felly dyma nhw'n gadael eu trefi a ffoi; a symudodd y Philistiaid i fyw ynddyn nhw. 8 Y diwrnod ar ôl y frwydr pan aeth y Philistiaid i ddwyn oddi ar y cyrff meirw, daethon nhw o hyd i Saul a'i dri mab yn gorwedd yn farw ar fynydd Gilboa. 9 Dyma nhw'n torri pen Saul i ffwrdd a chymryd ei arfau, yna anfon negeswyr drwy wlad y Philistiaid i gyhoeddi'r newyddion da yn nhemlau eu duwiau ac wrth y bobl. 10 Wedyn dyma nhw'n rhoi arfau Saul yn nheml y dduwies Ashtart, ac yn crogi ei gorff ar waliau Beth-shan. 11 Pan glywodd pobl Jabesh yn Gilead beth roedd y Philistiaid wedi'i wneud i Saul, 12 aeth eu milwyr i gyd allan a theithio drwy'r nos. Dyma nhw'n cymryd cyrff Saul a'i feibion oddi ar waliau Beth-shan, mynd â nhw i Jabesh a'u llosgi yno. 13 Wedyn, dyma nhw'n cymryd yr esgyrn a'u claddu o dan y goeden tamarisg Ref yn Jabesh, ac ymprydio am wythnos. RefHawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity