1 SAMUEL 5
Yr Arch yng ngwlad y Philistiaid
1 Wedi iddyn nhw gipio Arch Duw, dyma'r Philistiaid yn mynd â hi o Ebeneser i Ashdod.
2 Aethon nhw â hi i deml eu duw Dagon,Croes a'i gosod hi wrth ochr y ddelw o Dagon.
3 Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a'i osod yn ôl yn ei le.
4 Ond pan godon nhw'n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a'i ddwy law wedi'u torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.
5 (Dyna pam mae offeiriaid Dagon hyd heddiw, a phawb arall sy'n dod i deml Dagon, yn osgoi camu ar stepen drws y deml yn Ashdod.)
6 Cosbodd yr ARGLWYDD bobl Ashdod yn drwm, ac achosi hafoc yno. Cafodd pobl Ashdod, a'r ardal o'i chwmpas, eu taro'n wael gyda chwyddau cas Ref drostyn nhw.
7 Pan sylweddolodd pobl Ashdod beth oedd yn digwydd, dyma nhw'n dweud, “Ddylai Arch Duw Israel ddim aros yma gyda ni. Mae e wedi'n taro ni a Dagon ein duw ni!”
8 Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd, a gofyn, “Be wnawn ni ag Arch Duw Israel?” A dyma nhw'n ateb, “Ei symud hi i Gath Ref ”. Felly dyma nhw'n symud yr Arch yno.
9 Ond wedi iddi gyrraedd Gath, dyma'r ARGLWYDD yn cosbi'r dref honno hefyd. Cafodd pawb eu taro gyda chwyddau cas. Roedd hi'n banig llwyr yno!
10 Yna dyma nhw'n anfon Arch Duw ymlaen i Ecron. Ref Ond pan gyrhaeddodd yno dechreuodd pobl Ecron brotestio, “Maen nhw wedi gyrru Arch Duw Israel aton ni i'n lladd ni a'n teuluoedd!”
11 Felly dyma nhw'n casglu llywodraethwyr trefi'r Philistiaid at ei gilydd eto, a dweud wrthyn nhw, “Anfonwch Arch Duw Israel yn ôl i'w lle ei hun, neu bydd e'n ein lladd ni a'n teuluoedd.” Roedd y dref gyfan mewn panig llwyr, am fod Duw yn eu taro nhw mor drwm.
12 Os nad oedd pobl yn marw roedden nhw'n cael eu taro'n wael gyda chwyddau cas drostyn nhw. Roedd pobl y dref yn galw i'r nefoedd am help.
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity