|
|
(1 Brenhinoedd 14:25-28)
1 Pan oedd teyrnas Rehoboam wedi'i sefydlu a'i chryfhau, dyma fe a phobl Jwda i gyd yn troi cefn ar gyfraith yr ARGLWYDD. 2 Felly, yn ystod pumed flwyddyn Rehoboam fel brenin dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem. Roedden nhw wedi bod yn anffyddlon i'r ARGLWYDD. 3 Roedd gan Shishac 1,200 o gerbydau rhyfel, 60,000 o farchogion, a gormod o filwyr i'w cyfrif! Roedden nhw wedi dod gydag e o'r Aifft, ac yn cynnwys milwyr o Libia, Swccoth ac Affrica. Ref 4 Dyma fe'n concro trefi amddiffynnol Jwda ac yn mynd i ymosod ar Jerwsalem. 5 Roedd Rehoboam ac arweinwyr Jwda wedi dod at ei gilydd i Jerwsalem o achos ymosodiaid Shishac. Dyma'r proffwyd Shemaia yn mynd atyn nhw a dweud wrthyn nhw, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Am eich bod chi wedi troi cefn arna i, dw i wedi troi cefn arnoch chi. Dw i'n mynd i adael i Shishac eich dal chi.’” 6 Yna dyma arweinwyr Israel a'r brenin yn cyfaddef eu bai a dweud, “Mae'r ARGLWYDD yn iawn.” 7 Pan welodd yr ARGLWYDD eu bod nhw wedi syrthio ar eu bai, dyma fe'n rhoi'r neges yma i Shemaia: “Am eu bod wedi syrthio ar eu bai wna i ddim eu dinistrio nhw. Cân nhw eu hachub yn fuan. Dw i ddim yn mynd i ddefnyddio Shishac i dywallt fy llid ar Jerwsalem. 8 Ond er hynny bydd rhaid iddyn nhw fod yn weision iddo, a byddan nhw'n dod i ddeall y gwahaniaeth rhwng fy ngwasanaethu i a gwasanaethu teyrnasoedd y byd.” 9 Felly dyma Shishac, brenin yr Aifft, yn ymosod ar Jerwsalem, a dwyn trysorau teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol – cymerodd y cwbl, gan gynnwys yr holl darianau aur roedd Solomon wedi'u gwneud! 10 Roedd rhaid i'r brenin Rehoboam wneud tarianau pres yn eu lle i'w rhoi i swyddogion y gwarchodlu brenhinol oedd yn amddiffyn y palas. 11 Roedd y gwarchodlu brenhinol yn eu defnyddio bob tro roedd y brenin yn mynd i'r deml, ond yna'n mynd â nhw'n ôl i ystafell y gwarchodlu. 12 Pan syrthiodd Rehoboam ar ei fai wnaeth yr ARGLWYDD ddim ei ddinistrio'n llwyr. Yna buodd pethau'n dda ar Jwda.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity