2 CRONICL 19
1 Pan gyrhaeddodd Jehosaffat adre'n ôl yn saff i'r palas yn Jerwsalem,
2 dyma'r proffwyd Jehw fab Chanani yn mynd i'w weld. Dyma fe'n dweud wrth y brenin, “Ydy'n iawn dy fod ti'n helpu'r dyn drwg yna, Ahab, a gwneud ffrindiau hefo pobl sy'n casáu yr ARGLWYDD? Mae'r ARGLWYDD wedi digio go iawn hefo ti am wneud y fath beth.
3 Ac eto ti wedi gwneud pethau da. Rwyt ti wedi cael gwared â pholion y dduwies Ashera o'r wlad ac wedi bod yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD.”
Jehosaffat yn penodi barnwyr
4 Roedd Jehosaffat yn byw yn Jerwsalem, ond roedd yn mynd allan at y bobl i bob rhan o'r wlad, o Beersheba i fryniau Effraim, i'w hannog nhw i droi'n ôl at yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
5 Penododd farnwyr ym mhob un o drefi caerog Jwda,
6 a dweud wrthyn nhw, “Gwyliwch beth dych chi'n wneud. Dim plesio pobl ydy'ch gwaith chi. Dych chi'n barnu ar ran yr ARGLWYDD, a bydd e gyda chi wrth i chi wneud hynny.
7 Dangoswch barch ato a gwneud beth sy'n iawn. Dydy'r ARGLWYDD ddim yn hoffi anghyfiawnder, dangos ffafriaeth na derbyn breib.”
8 Yn Jerwsalem dyma Jehosaffat hefyd yn penodi Lefiaid, offeiriaid a rhai o benaethiaid Israel i farnu ar ran yr ARGLWYDD ac i ddyfarnu unrhyw achosion rhwng y bobl.
9 Dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Rhaid i chi ddangos parch at yr ARGLWYDD a gwneud y gwaith yn onest ac yn ddidwyll.
10 Pan fydd eich pobl sy'n byw yn y pentrefi yn dod ag achos atoch, rhybuddiwch nhw i beidio pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. (Bydd achosion o dywallt gwaed a materion eraill yn ymwneud â'r gyfraith a deddfau a rheolau gwahanol.) Os na wnewch chi eu rhybuddio nhw bydd Duw yn ddig gyda chi a'ch cydweithwyr. Ond os byddwch chi'n ufudd, fyddwch chi ddim yn euog.
11 Amareia'r offeiriad fydd â'r gair olaf ar unrhyw fater yn ymwneud â cyfraith yr ARGLWYDD. A Sebadeia fab Ishmael, arweinydd llwyth Jwda, fydd yn delio gyda phopeth sy'n ymwneud â'r brenin. Bydd y Lefiaid yn gweithredu fel swyddogion gweinyddol. Gwnewch eich gwaith yn hyderus! Bydd yr ARGLWYDD gyda'r rhai sy'n gwneud job dda ohoni!”
I'r pen
Safle Llawn
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net)
Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity