|
|
(2 Brenhinoedd 12:1-16)
1 Dim ond saith oed oedd Joas pan gafodd ei wneud yn frenin ar Jwda. Bu'n frenin yn Jerwsalem am bedwar deg o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Tsifia, ac roedd hi'n dod o Beersheba. 2 Pan oedd Jehoiada'r offeiriad yn dal yn fyw, gwnaeth Joas beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. 3 Jehoiada wnaeth ddewis dwy wraig iddo, a chafodd y ddwy blant iddo – meibion a merched. 4 Dyma Joas yn penderfynu atgyweirio teml yr ARGLWYDD. 5 Galwodd yr offeiriaid a'r Lefiaid at ei gilydd, a dweud wrthyn nhw, “Ewch i drefi Jwda i gyd a chasglu'r dreth flynyddol gan bobl Israel, i drwsio teml eich Duw. A gwnewch y peth ar unwaith!” Ond dyma'r Lefiaid yn oedi. 6 Felly dyma'r brenin yn galw Jehoiada'r archoffeiriad i fynd i'w weld, a gofyn iddo, “Pam wyt ti ddim wedi cael y Lefiaid i gasglu'r dreth osododd Moses ar bobl Israel tuag at gynnal pabell y dystiolaeth? Roedden nhw i fod i fynd allan drwy Jwda a Jerwsalem yn ei gasglu.” 7 (Roedd y wraig ddrwg yna, Athaleia, a'i meibion, wedi torri i mewn i deml Dduw a defnyddio llestri cysegredig teml yr ARGLWYDD i addoli duwiau Baal!) 8 Felly dyma'r brenin yn gorchymyn gwneud cist i'w gosod tu allan i'r giât oedd yn arwain i deml yr ARGLWYDD. 9 Wedyn, dyma neges yn cael ei hanfon allan drwy Jwda a Jerwsalem yn gorchymyn i'r bobl ddod i dalu'r dreth roedd Moses, gwas Duw, wedi'i gosod ar bobl Israel yn yr anialwch. 10 A dyma'r arweinwyr a'r bobl i gyd yn gwneud hynny'n frwd, ac yn taflu'r arian i'r gist nes oedd hi'n llawn. 11 Wedyn pan oedd y Lefiaid yn gweld fod y gist yn llawn, roedden nhw'n mynd â hi at swyddogion y brenin. Yna roedd ysgrifennydd y brenin a'r prif-offeiriad yn gwagio'r gist ac yna mynd â hi yn ôl i'w lle. Roedd hyn yn digwydd bob dydd am amser hir, a dyma nhw'n casglu lot fawr o arian. 12 Wedyn roedd y brenin a Jehoiada yn rhoi'r arian i'r dynion oedd yn arolygu'r gwaith ar deml yr ARGLWYDD. 13 Roedden nhw'n ei ddefnyddio i gyflogi seiri maen a seiri coed, gweithwyr haearn a chrefftwyr pres i atgyweirio a thrwsio teml yr ARGLWYDD. 14 Pan oedden nhw wedi gorffen eu gwaith, dyma nhw'n mynd â'r arian oedd yn weddill yn ôl i'r brenin a Jehoiada. Cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i wneud offer i deml yr ARGLWYDD – offer ar gyfer y gwasanaethau a'r offrymau i'w llosgi, powlenni arogldarth, a llestri eraill o aur ac arian. Roedd offrymau i'w llosgi yn cael eu cyflwyno'n gyson yn y deml ar hyd y cyfnod pan oedd Jehoiada yn fyw. 15 Dyma Jehoiada yn byw i fod yn hen iawn. Bu farw yn gant tri deg oed. 16 Cafodd ei gladdu yn ninas Dafydd gyda'r brenhinoedd, am ei fod wedi gwneud cymaint o dda i Israel ar ran Duw a'i deml.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity