|
|
(2 Brenhinoedd 14:21-22; 15:1-7)
1 Dyma bobl Jwda yn cymryd Wseia, oedd yn un deg chwech oed, a'i wneud yn frenin yn lle ei dad Amaseia. 2 Adeiladodd Wseia dref Elat a'i hadfer i Jwda ar ôl i'r brenin Amaseia farw. 3 Un deg chwech oedd e pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am bum deg dwy o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Iecholeia, ac roedd hi'n dod o Jerwsalem. 4 Fel ei dad Amaseia roedd Wseia yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. 5 Sechareia oedd cynghorydd ysbrydol Wseia, a tra oedd Sechareia'n fyw roedd Wseia'n dilyn yr ARGLWYDD, ac roedd Duw yn gwneud iddo lwyddo. 6 Aeth i ryfel yn erbyn y Philistiaid, a chwalu waliau Gath, Iabne ac Ashdod. Wedyn adeiladodd drefi yn ardal Ashdod ac ar hyd a lled tiriogaeth y Philistiaid. 7 Roedd Duw wedi'i helpu yn ei ymgyrchoedd yn erbyn y Philistiaid, yr Arabiaid oedd yn byw yn Gwr-baal, a'r Mewniaid. 8 Roedd yr Ammoniaid yn talu trethi iddo hefyd, a daeth yn enwog hyd at ffiniau gwlad yr Aifft am ei fod mor gryf. 9 Dyma Wseia'n adeiladu a chryfhau tyrau amddiffynnol yn Jerwsalem, wrth Giât y Gornel, Giât y Dyffryn a lle mae'r ongl yn y wal. 10 Adeiladodd dyrau amddiffynnol a chloddio pydewau yn yr anialwch hefyd, gan fod ganddo lawer o anifeiliaid yn Seffela ac ar y gwastadedd. Roedd yn hoff iawn o ffermio. Roedd ganddo weithiwr yn trin y tir a gofalu am y gwinllannoedd ar y bryniau ac yn Carmel. 11 Roedd gan Wseia fyddin o filwyr yn barod i ryfela. Roedden nhw wedi cael eu trefnu yn gatrawdau gan Jeiel yr ysgrifennydd a Maaseia oedd yn swyddog yn y fyddin. Chananeia, un o swyddogion y brenin, oedd yn goruchwylio'r cyfan. 12 Roedd yna 2,600 o bennau teuluoedd yn arwain catrawd o filwyr yn y fyddin. 13 Roedd byddin o 370,500 o filwyr ganddyn nhw, yn barod i amddiffyn y brenin yn erbyn ei elynion. 14 Dyma Wseia'n paratoi digon o darianau, gwaywffyn, helmedau, arfwisg, bwâu a ffyn tafl a cherrig i'r fyddin gyfan. 15 Dyma fe'n cael pobl i ddyfeisio peiriannau rhyfel a'u gosod ar dyrau a chorneli waliau Jerwsalem. Roedd y rhain yn gallu taflu saethau a cherrig mawr. Roedd Duw wedi helpu Wseia a'i wneud yn arweinydd pwerus iawn, ac roedd yn enwog yn bell ac agos.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity