|
|
(2 Brenhinoedd 23:30-35)
1 Dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i wneud yn frenin yn Jerwsalem yn lle ei dad. 2 Roedd e'n ddau ddeg tri pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis. 3 Dyma, Necho, brenin yr Aifft yn ei gymryd o Jerwsalem a rhoi treth ar y wlad o dair mil cilogram o arian a tri deg cilogram o aur. 4 Wedyn dyma fe'n gwneud Eliacim, brawd Jehoachas, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a newid ei enw i Jehoiacim. Yna cymryd Jehoachas, brawd y brenin, i lawr i'r Aifft.(2 Brenhinoedd 23:36—24:7)
5 Roedd Jehoiacim yn ddau ddeg pump oed pan gafodd ei wneud yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw. 6 Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn ymosod ar y wlad. Dyma fe'n ei roi mewn cadwyni pres a mynd ag e'n gaeth i Babilon. 7 Cymerodd Nebwchadnesar rai o lestri teml yr ARGLWYDD a mynd â nhw i Babilon a'u gosod yn ei balas ei hun. 8 Mae gweddill hanes Jehoiacim, a'r pethau ffiaidd wnaeth e, a'r cyhuddiadau yn ei erbyn, i'w gweld yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel a Jwda. A daeth ei fab, Jehoiachin, yn frenin yn ei le.(2 Brenhinoedd 24:8-17)
9 Un deg wyth oed oedd Jehoiachin pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am dri mis a deg diwrnod. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD. 10 Yn y gwanwyn dyma Nebwchadnesar yn anfon rhai i'w gymryd e i Babilon, a llestri gwerthfawr o deml yr ARGLWYDD hefyd. A dyma frenin Babilon yn gwneud perthynas iddo, Sedeceia, yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.(2 Brenhinoedd 24:18-20; Jeremeia 52:1-3a)
11 Roedd Sedeceia yn ddau ddeg un oed pan gafodd ei benodi'n frenin. Ref Bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am un deg un o flynyddoedd. 12 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD ei Dduw, a gwrthododd wrando ar y proffwyd Jeremeia oedd yn rhoi neges Duw iddo. 13 Dyma fe'n gwrthryfela yn erbyn y Brenin Nebwchadnesar, er fod hwnnw wedi gwneud iddo addo o flaen Duw y byddai'n deyrngar iddo. Trodd yn ystyfnig a phenstiff a gwrthod troi yn ôl at yr ARGLWYDD, Duw Israel. 14 Roedd arweinwyr yr offeiriaid a'r bobl hefyd yn anffyddlon, ac yn gwneud yr un math o bethau ffiaidd a'r gwledydd paganaidd. Dyma nhw'n llygru'r deml oedd wedi'i chysegru i'r ARGLWYDD yn Jerwsalem. 15 Anfonodd yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, broffwydi i'w rhybuddio nhw dro ar ôl tro, am ei fod yn Dduw oedd yn tosturio wrth ei bobl a'i deml. 16 Ond roedden nhw'n gwneud hwyl am ben negeswyr Duw, yn cymryd eu geiriau'n ysgafn a dirmygu ei broffwydi. Yn y diwedd roedd yr ARGLWYDD mor ddig gyda nhw doedd dim byd allai neb ei wneud i atal y farn.(2 Brenhinoedd 15:1-20; Jeremeia 52:3b-11)
17 Anfonodd Duw frenin Babilon yn eu herbyn. Dyma hwnnw'n lladd y dynion ifainc â'r cleddyf yn y deml. Gafodd neb eu harbed – y dynion a'r merched ifainc, na'r hen a'r oedrannus. Gadawodd yr ARGLWYDD iddo'u lladd nhw i gyd. 18 Cymerodd bopeth o deml Dduw, bach a mawr, popeth oedd yn stordai'r deml, a trysorau'r brenin a'i swyddogion, a mynd â'r cwbl i Babilon. 19 Wedyn, dyma'r fyddin yn llosgi teml Dduw a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. Dyma nhw'n llosgi'r palasau brenhinol a dinistrio popeth gwerthfawr oedd yno. 20 A dyma fe'n mynd â phawb oedd heb gael eu lladd yn gaethion i Babilon. Yno buon nhw'n gaethweision i'r brenin a'i feibion nes i'r Persiaid deyrnasu. 21 Felly daeth beth ddwedodd yr ARGLWYDD drwy Jeremeia yn wir. Cafodd y tir ei Sabothau,Croes arhosodd heb ei drin am saith deg mlynedd.Croes(Esra 1:1-4)
22 Lai na blwyddyn ar ôl i Cyrus ddod yn frenin Persia, Ref dyma'r ARGLWYDD yn gwneud beth wnaeth e addo drwy Jeremeia. Ref Dyma fe'n ysgogi Cyrus i anfon datganiad allan drwy'r deyrnas i gyd. Dyma'r datganiad: 23 “Dyma mae Cyrus, brenin Persia yn ei ddweud. ‘Mae'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, wedi rhoi teyrnasoedd y byd i gyd i mi. Ac mae e wedi gorchymyn i mi adeiladu teml iddo yn Jerwsalem yn Jwda. Pwy ohonoch chi sy'n perthyn i'w bobl? Boed i'r ARGLWYDD eich Duw fynd gyda chi yn ôl i Jerwsalem!’”Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity